Beth yw sgrinio?
Mae sgrinio yn caniatáu canfod a thrin problemau iechyd posibl yn gynnar.
Y prif raglenni sgrinio i oedolion yng Nghymru yw'r Coluddyn, Serfigol, Ymlediad Aortig Yn Yr Abdomen, a'r Fron.
Os ydych chi'n pryderu am newidiadau i'ch iechyd, peidiwch ag aros am eich apwyntiad sgrinio, siaradwch â'ch meddyg teulu nawr.
Manteision sgrinio:
Pa fathau o sgrinio sy'n cael eu cynnig yng Nghymru a sut mae cael mynediad iddo?
Gwahoddir pawb rhwng 50 a 74 oed, sy'n byw yng Nghymru, i gymryd y prawf bob dwy flynedd neu o ddyddiad eich canlyniad diwethaf.
Os ydych chi'n 50 oed, does dim angen i chi gysylltu â ni i ofyn am becyn prawf. Byddwch yn cael gwahoddiad awtomatig rhwng Hydref 2024 a Mehefin 2025.
Gallwch ofyn am becyn prawf sgrinio'r coluddyn eich hun: Sgrinio'r Coluddyn - Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cynigir sgrinio serfigol i fenywod a phobl â serfics rhwng 25 a 64 oed i wirio iechyd celloedd yng ngheg y groth. Caiff ei gynnig bob 3 blynedd i'r rhai rhwng 25 a 49 oed, a phob 5 mlynedd rhwng 50 a 64 oed.
Gall sgrinio serfigol atal canser serfigol rhag datblygu neu ei ganfod yn gynnar. Bydd y prawf sgrinio serfigol (prawf ceg y groth) yn chwilio am fathau risg uchel o'r Papilomafirws Dynol (HPV) a all achosi newidiadau celloedd ar serfics. Gall canfod newidiadau celloedd atal canser ceg y groth rhag datblygu.
Nod Rhaglen Sgrinio Ymlediad AortigYn Yr Abdomen (AAA) Cymru yw lleihau nifer yr AAA sydd wedi rhwygo a'r marwolaethau yng Nghymru.
Gwahoddir dynion 65 oed i gael eu sgrinio os ydynt wedi cofrestru yn byw yng Nghymru. Defnyddir uwchsain i sganio'r abdomen i chwilio am AAA.
Pam mae cymryd rhan mewn sgrinio AAA yn bwysig?
Fel arfer nid oes unrhyw arwyddion na symptomau os oes gennych AAA. Mae hyn yn golygu efallai na fyddwch chi'n teimlo unrhyw boen nac yn sylwi ar unrhyw beth gwahanol.
Y ffordd hawsaf o ddarganfod a oes gennych chi AAA yw trwy gael sgan uwchsain untro o'ch abdomen.
Os canfyddir AAA, cynigir monitro neu driniaeth i chi.
Gall AAA ddigwydd i unrhyw un, ond mae'n fwyaf cyffredin mewn dynion 65 oed a hŷn. Rydych chi mewn mwy o berygl os yw’r canlynol yn berthnasol:
Gwefan: Sgrinio Ymlediad Aortig yn yr Abdomen - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Cynigir sgrinio'r fron i fenywod 50 i 70 oed i ganfod arwyddion cynnar o ganser y fron. Gall menywod dros 70 oed hunanatgyfeirio a chysylltu â Bron Brawf Cymru i wneud apwyntiad Cysylltwch â Ni - Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Gwybodaeth bellach am sgrinio'r GIG Sgrinio'r GIG - GIG