Neidio i'r prif gynnwy

Y 3A - Annog, Atal ac Amser Paratoi

Bydd gwasanaethau Annog, Atal ac Amser Paratoi, a elwir yn wasanaethau’r 3A, yn eich helpu chi:

  • Annog - ymddygiadau iach
  • Atal - gwybod beth i wneud i atal eich cyflwr rhag gwaethygu
  • Amser Paratoi  - i sicrhau bod eich triniaeth yn llwyddiant

Egwyddorion y 3A

  • Cyfathrebu

- Rwy’n gwybod bod fy atgyfeiriad wedi dod i law a pha restr aros rwyf arni.

- Gallaf awgrymu pa sianel gyfathrebu sydd orau gennyf.

- Rwyf wedi cael gwybod sut y gallaf gael gafael ar wybodaeth am ba gymorth sydd ar gael imi tra byddaf yn aros drwy’r Gwasanaeth Aros yn Iach ar wefan y Bwrdd Iechyd.

- Gallaf gysylltu â thîm y Gwasanaeth Aros yn Iach os yw fy symptomau neu fy sefyllfa'n gwella neu'n gwaethygu.

 

  • Gwneud penderfyniadau ar y cyd

 

- Rwy'n deall yr opsiynau sydd ar gael i mi ynglŷn â'm triniaeth a sut i gael cefnogaeth.

- Rwyf wedi cael digon o wybodaeth i’m helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am fy ngofal a’m cymorth.

- Mae gen i wybodaeth glir am yr hyn a ddisgwylir i baratoi ar gyfer fy nhriniaeth a'm hadferiad.

- Mae gen i ddigon o wybodaeth, dealltwriaeth a chefnogaeth i fod yn hyderus fel partner cyfartal yn fy ngofal fy hun

 

Gwybodaeth

 

Gallaf gael gafael ar wybodaeth ac addysg glir, gan gynnwys pa gefnogaeth sydd ar gael yn fy nghymuned i helpu fy hunanreolaeth fy hun

Mae gen i ymwybyddiaeth o'r gwahanol opsiynau triniaeth sydd ar gael i mi

Gallaf gael gafael ar, a deall yr wybodaeth sydd wedi’i chyfeirio ataf.

Gallaf roi adborth mewn unrhyw fformat am y gwasanaethau rwyf wedi’u defnyddio ac a ydynt wedi gwneud gwahaniaeth.

Rwy'n deall y rhesymau pam mae angen i mi ddarparu gwybodaeth ac adborth, ac rwy'n gwybod at beth y bydd yn cael ei ddefnyddio.

Rhannu:
Cyswllt: