Mae pryder a gorbryder dros iechyd yn gyffredinol ac yn ddealladwy. Pan fydd penderfyniadau ynghylch gofal iechyd yn cael eu gohirio neu'n ansicr, mae'n naturiol bod yn bryderus. Mae'n bwysig ar yr adegau hyn i gynnig gofal a thosturi i chi eich hun a'r rhai o'ch cwmpas.
Gall pryder deimlo fel cadwyn o feddyliau a delweddau, gan ragweld pethau drwg yn aml a allai ddigwydd. Yn aml, gall teimlo’n anodd rheoli. Gall gael effaith ar ein corff, megis tensiwn yn y cyhyrau neu achau a phoenau; aflonyddwch ac anallu i ymlacio, anhawster canolbwyntio a chysgu, a theimlo blinedig yn hawdd. Pan fydd pethau y tu hwnt i'n rheolaeth, mae hefyd yn normal teimlo'n ddig ac yn flin. Efallai y byddwch yn teimlo’n grac yn gyffredinol, tuag at eich hun, a thuag at eraill.
Awgrymiadau defnyddiol:
Mae’n normal ac weithiau yn ddefnyddiol i fod yn bryderus. Er enghraifft, gall pryder ein helpu i feddwl ymlaen llaw, cynllunio a datrys problemau. Ond gall gormod o bryder gymryd dros eich bywyd, gwneud i chi deimlo'n ofidus ac wedi blino, a gall amharu ar y ffordd rydych chi am wneud pethau.
Dyma rai syniadau defnyddiol:
- Nodwch eich pryderon ar bapur - gall helpu tynnu eich meddyliau allan o’ch pen.
- Canolbwyntiwch ar bethau sydd o fewn eich rheolaeth - yn aml rydym yn poeni am bethau na allwn newid, neu’r pethau a allai ddigwydd neu efallai ddim digwydd. Nodwch ba rai o'ch pryderon y gallwch ddatrys, a chymerwch gamau i wneud hyn.
- Gadewch fynd o’r pryderon nad ydyn o fewn eich rheolaeth - pryderon 'damcaniaethol' yw lle rydym yn poeni am rywbeth na allwn wneud dim amdano ar hyn o bryd. Er enghraifft, efallai y byddwn yn meddwl am y sefyllfaoedd neu'r penderfyniadau gwaethaf y gallai rhywun arall eu gwneud. Mae’r rhain fel arfer yn dechrau gyda’r geiriau “beth os...”
- Edrychwch ar y diagram defnyddiol hwn (PDF) i'ch helpu penderfynu pa bryderon sy'n ddefnyddiol ar rhai nad ydynt yn ddefnyddiol (yn agor mewn tab newydd)
- Deall nad yw gadael eich pryderon i fynd yn hawdd.
- Sylwch ar y meddyliau nad ydynt yn ddefnyddiol- dywedwch rywbeth fel "dyma’r pryder hwnnw am x eto"
- Mabwysiadu ymarferion ymwybyddiaeth ofalgar - gall hyn helpu i adael i fynd o’r pryderon a dod â'ch ffocws yn ôl i'r presennol. Rhowch gynnig ar yr ymarfer isod, neu defnyddiwch y dolenni ac apiau am fwy o wybodaeth ac ymarferion ymwybyddiaeth ofalgar (clip sain).
- Byddwch yn garedig gyda’ch hun - ceisiwch beidio â barnau eich hun am boeni.
- Gwnewch rywbeth arall - treuliwch eich amser yn gwneud pethau rydych chi'n eu mwynhau, sy'n rhoi ymdeimlad o gyflawniad i chi, neu'n eich cysylltu â phobl eraill.
Ymwybyddiaeth Ofalgar - "gadael i fynd"
Rhaid ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar. Os nad ydych wedi rhoi cynnig ar fyfyrio o'r blaen, efallai y byddwch yn sylwi bod eich sylw'n crwydro ac nad yw'n hawdd ei reoli. Mae pobl sy'n ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yn rheolaidd yn nodi ei fod yn helpu eu gallu i aros yn y presennol ac ymdopi ag amrywiaeth eang o deimladau.
Ymwybyddiaeth Ofalgar a gadael i fynd.pdf
Defnyddiwch adnoddau lleol y GIG:
Adnoddau ar-lein defnyddiol: