Neidio i'r prif gynnwy

Amddiffyn a Diogelu'r Cyhoedd

Mae gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ddyletswydd statudol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i roi gwybod am blentyn neu oedolyn a allai fod mewn perygl neu'n profi camdriniaeth neu esgeulustod i wasanaethau cymdeithasol plant neu oedolion a/neu'r heddlu. Mae hefyd yn ofynnol i'r Bwrdd Iechyd weithio'n agos gydag asiantaethau eraill fel yr Heddlu, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg i rannu gwybodaeth i helpu diogelu plant ac oedolion.

Os ydych chi’n poeni bod plentyn mewn perygl neu o bosibl yn dioddef o unrhyw fath o niwed, yna gallwch roi gwybod i Wasanaethau Plant Powys, yr Heddlu neu’r NSPCC.

 

  • Gwasanaethau Plant Powys - 01597 827666 (dydd Llun - dydd Gwener 9.00am-5.00pm)
  • Gwasanaethau Plant Powys Tu Allan i Oriau - 0345 054 4847 
  • Os oes rhywun mewn perygl uniongyrchol, cysylltwch â'r Heddlu drwy ffonio 999.
  • Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC) - 0808 800 5000 (dydd Llun - dydd Gwener 10.00am-8.00pm)

 

Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Cyngor Sir Powys  

Os ydych chi’n poeni bod oedolyn mewn perygl neu o bosibl yn dioddef o unrhyw fath o niwed, yna gallwch roi gwybod i Wasanaethau Oedolion Powys, neu’r Heddlu.

  • Gwasanaethau Oedolion Powys - 0345 602 7050 (dydd Llun - dydd Gwener 9.00am-5.00pm)
  • Tu Allan i Oriau - 0345 054 4847 
  • Os oes rhywun mewn perygl uniongyrchol, cysylltwch â'r Heddlu drwy ffonio 999.

 

Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Cyngor Sir Powys  

Diffinnir cam-drin fel torri hawliau dynol a sifil unigolyn gan unrhyw berson neu bersonau eraill a allai arwain at niwed sylweddol.

Mathau o Gam-drin

Mae'r mathau o gam-drin yn cynnwys; esgeulustod, cam-drin corfforol, cam-drin seicolegol neu emosiynol, cam-drin ariannol, cam-drin rhywiol, pob math o gam-drin domestig, trais rhywiol, tagu, aflonyddu a rheolaeth drwy orfodaeth, pob math o ecsbloetio sy'n cynnwys caethwasiaeth fodern, priodas dan orfod, anffurfio organau cenhedlu menywod, trais ar sail anrhydedd a radicaleiddio.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn rhoi gwybod am gam-drin neu esgeuluso?

Y flaenoriaeth ar unwaith yw sicrhau bod yr oedolyn a/neu'r plentyn sydd mewn perygl yn ddiogel ac yn cael ei amddiffyn rhag unrhyw gam-drin pellach. Bydd y pryder a adroddwyd yn cael ei adolygu a bydd camau gweithredu yn cael eu rhoi ar waith a fydd yn seiliedig ar y wybodaeth a rannir. Gall hyn olygu bod nifer o asiantaethau yn cydweithio i rannu mwy o wybodaeth i helpu creu darlun o amgylchiadau'r plentyn a/neu oedolyn. Gelwir hyn yn ddull amlasiantaethol a dyma'r ffordd fwyaf effeithiol o amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl.

Os ydych yn ddioddefwr neu'n oroeswr cam-drin domestig mae cymorth a chefnogaeth ar gael; gallwch ddweud wrth aelod o staff BIAP, dweud wrth eich meddyg teulu neu gallwch gysylltu ag un o'r llinellau cymorth neu'r gwasanaeth arbenigol.

Mae Canolfan Argyfwng Teuluoedd Sir Drefaldwyn (CATSD) yn ddarparwr cymorth cam-drin domestig arbenigol ar gyfer Gogledd Powys i ddioddefwyr sy’n ddynion, menywod neu’n blant. Ffoniwch 01686 629114 neu ewch i wefan CATSD i gael rhagor o wybodaeth.

Mae Byw Heb Ofn yn Llinell Gymorth Genedlaethol 24 awr i Gymru. Ffoniwch 0808 801 0800 neu ewch i wefan Byw Heb Ofn am fwy o fanylion.

Llinell Gymorth Genedlaethol Cam-drin Domestig 24 awr yw Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer menywod a phlant yn erbyn trais domestig. Ffoniwch 0808 2000 247 neu ewch i wefan y Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Cenedlaethol i gael rhagor o wybodaeth

Mae Cynllun Dyn Cymru yn llinell gymorth i ddynion sy’n profi cam-drin.  Ffoniwch 0321 neu ewch i wefan Cynllun Dyn am fwy o wybodaeth

Mae Calan DVS yn cynnig cymorth ar gyfer cam-drin domestig i Dde Powys. Ffoniwch 01874 625146 neu ewch i wefan Calan DVS am fwy o wybodaeth.

‘Switchboard’ yw’r llinell gymorth genedlaethol LHDTCRhA+.  Ffoniwch 0800 0119 100 neu ewch i wefan y Switchboard am fwy o wybodaeth.

Mae Cam-drin domestig yn effeithio ar bobl o bob oed. Fodd bynnag, mae profiadau dioddefwyr hŷn yn aml yn wahanol i brofiadau pobl iau oherwydd amrywiaeth o ffactorau cymdeithasol, diwylliannol a chorfforol sydd angen sylw.  Hourglass Cymru yw'r llais cenedlaethol i bobl hŷn sydd mewn perygl, ffoniwch 0808 808 8141 neu ewch i wefan Hourglass Cymru am ragor o wybodaeth.

Mae Trais Ar Sail Anrhydedd yn fath o gam-drin domestig a gall ddod ar sawl ffurf. Mae llawer o fenywod yn cael eu heffeithio gan Gam-drin ar Sail Anrhydedd. 

Mae cymorth ar gael, os ydych mewn perygl neu os ydych chi'n poeni am rywun arall a allai fod mewn perygl, rydym yma i wrando ac i'ch helpu, gallwch ddweud wrth aelod o staff BIAP, dywedwch wrth eich meddyg teulu neu gallwch gysylltu ag un o'r llinellau cymorth neu'r gwasanaethau arbenigol sy'n rhad ac am ddim. 

Gellir cysylltu â'r Llinell Gymorth Cam-drin Seiliedig ar Anrhydedd genedlaethol ar 0800 5999 247 / Llun-Gwener 9am-5pm neu ewch i wefan Llinell Gymorth Cam-drin ar sail Anrhydedd i gael rhagor o wybodaeth.

Mewn argyfwng, cysylltwch â’r heddlu ar 999.

Beth yw Cam-drin Domestig

Unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau o ymddygiad rheolaethol, gorfodaeth neu fygythiol, trais neu gam-drin rhwng y rhai 16 oed neu'n hŷn sydd neu sydd wedi bod yn bartneriaid agos atoch neu aelodau o'r teulu waeth beth fo'u rhyw neu rywioldeb. Gall hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, y mathau canlynol o gam-drin: Seicolegol, Corfforol, Rhywiol, Ariannol, Emosiynol." (Y Swyddfa Gartref).  

Gall yr ymddygiadau camdriniol gynnwys:

Cam-drin Corfforol

Cam-drin Rhywiol

Cam-drin Ariannol

Cam-drin Emosiynol / Seicolegol

Rheolaeth drwy Orfodaeth

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y mathau o ymddygiad cam-drin yn Cam-drin Domestig Canllawiau Statudol (accessible) - GOV.UK (www.gov.uk)

Mae cymorth ar gael; os ydych chi mewn perygl neu wedi profi unrhyw fath o drais rhywiol neu os ydych chi'n poeni am rywun arall, rydyn ni yma i wrando ac i helpu.

Gallwch ddweud wrth aelod o staff BIAP, dywedwch wrth eich meddyg teulu neu gallwch gysylltu ag un o'r llinellau cymorth neu wasanaeth arbenigol sy'n ddiogel ac am ddim.

Mae Byw Heb Ofn yn Llinell Gymorth Cenedlaethol 24 awr i Gymru. Ffoniwch 0808 801 0800 neu ewch i wefan Byw Heb Ofn am fwy o fanylion.

‘New Pathways’ sy’n darparu cefnogaeth i ddioddefwyr trais, cam-drin rhywiol neu gam-drin. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan New Pathways neu cysylltwch â 01685 379310

Diffiniad trais rhywiol gan Sefydliad Iechyd y Byd:

‘unrhyw weithred rywiol, ceisio cael gweithred rywiol, sylwadau neu ddatblygiadau rhywiol digroeso, neu ymgais i fasnachu yn erbyn rhywioldeb unigolyn gan ddefnyddio gorfodaeth, gan unrhyw berson waeth beth fo'u perthynas â'r dioddefwr, mewn unrhyw leoliad.’

Gall cam-drin rhywiol ddigwydd i unrhyw un, nid yw camdrinwyr yn gwahaniaethu. Nid oes unrhyw esgus na chyfiawnhad dros gam-drin rhywiol. Y troseddwr sy'n llwyr gyfrifol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, waeth ble oeddech chi, beth oeddech chi'n ei wneud, beth oeddech chi'n ei wisgo, beth oeddech chi'n ei ddweud, os oeddech chi'n feddw neu dan ddylanwad cyffuriau, nid eich bai chi oedd hynny. P'un a ddigwyddodd amser maith yn ôl, neu os yw newydd ddigwydd i chi nawr, nid oeddech yn haeddu hyn. 

Cydsyniad sydd wrth wraidd hwn i gyd - yn ôl y gyfraith, mae person ond yn cydsynio i weithgaredd rhywiol "os yw ef neu hi'n cytuno trwy ddewis, a bod ganddynt y rhyddid a'r gallu i wneud y dewis hwnnw". Os gwnaethoch chi ddweud "ie" wrth rywun oherwydd bod ofn arnoch am eich bywyd neu ddiogelwch, neu am rywun rydych chi'n poeni amdano, neu os oeddech chi'n cysgu neu'n anymwybodol neu'n analluog trwy alcohol neu gyffuriau, yna nid oeddech chi'n cytuno trwy ddewis ac nid oedd gennych y rhyddid a'r gallu i wneud y dewis hwnnw.

Os gwnaethoch chi ddweud “na”, yna roeddech chi'n golygu na. Gwyliwch y fideo isod i ddysgu mwy am gydsyniad.

https://youtu.be/pZwvrxVavnQ

Mae Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol wedi'u lleoli ledled Cymru ac mae ganddynt feddygon, nyrsys a gweithwyr cymorth sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig i ofalu amdanoch chi. I ddod o hyd i'ch Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol agosaf, ewch i wefan Gweithrediaeth GIG Cymru.

Mae CAYR (Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol) yn ganolfan lle gallwch gael help a chefnogaeth ar unwaith. Maent yn dod ag ystod o weithwyr proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig at ei gilydd i roi cymorth, cefnogaeth a gwybodaeth i unigolion sydd wedi cael eu treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol, boed yn ddiweddar neu yn y gorffennol.

Mae CAYR yn wasanaethau cyfrinachol ac maent yn canolbwyntio'n llwyr arnoch chi a'r hyn rydych chi ei eisiau a'i angen. Efallai eich bod yn poeni am ddweud wrth rywun am yr hyn a ddigwyddodd i chi oherwydd nad ydych am i’r heddlu fod rhan, neu oherwydd nad ydych yn gwybod beth yw eich opsiynau na'ch hawliau. Does dim pwysau i adrodd i'r heddlu.

Ewch i'r fideos canlynol i gael rhagor o wybodaeth am CuAYR https://www.youtube.com/watch?v=9m5u1xP8RYc

https://youtu.be/y8MSUTShlYE

New Pathways

Mae ‘New Pathways’ yn darparu cymorth arbenigol i oedolion, plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan drais, ymosodiad rhywiol neu gam-drin. Maent yn cynnig gwasanaethau wyneb yn wyneb, ar-lein a dros y ffôn ar draws Canolbarth, De a Gorllewin Cymru.

Gallwch gysylltu â nhw ar 01685 379310 neu ewch i wefan New Pathways   

Mae'r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn diogelu hawl pobl i gymryd rhan mewn penderfyniadau am eu bywydau. Mae galluedd yn ymwneud â gallu bob dydd unigolyn i wneud penderfyniadau am yr hyn sy'n digwydd iddo, gan gynnwys penderfyniadau am ei ofal a'i driniaeth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael i bobl hŷn yng Nghymru yn Gwybod eich hawliau - elyfr (comisiynyddpoblhyn)

Mae'n berthnasol i bawb sy'n 16 oed neu'n hŷn yng Nghymru a Lloegr. Mae rheolau gwahanol ar gyfer plant. Mae'r gyfraith yn dweud bod rhaid i ni helpu pobl gwneud eu penderfyniadau eu hunain lle bynnag y bo modd. Pan na all person wneud ei benderfyniad ei hun, mae'n rhaid i bobl eraill benderfynu beth sydd orau iddo. Yn aml, teulu'r unigolyn yw hwn, ond weithiau mae'n rhaid i bobl eraill wneud y penderfyniad.

Os yw'n benderfyniad meddygol, bydd hyn yn cael ei wneud gan feddyg. Weithiau bydd yr Awdurdod Lleol yn gwneud rhai penderfyniadau. 

Atwrneiaeth Arhosol – LPA

Mae Atwrneiaeth Arhosol yn ddogfen gyfreithiol sy'n gadael i chi (y rhoddwr) benodi un neu fwy o bobl (a elwir yn atwrneiod) i'ch helpu gwneud penderfyniadau neu i wneud penderfyniadau ar eich rhan. Mae hyn yn rhoi mwy o reolaeth i chi dros yr hyn sy'n digwydd i chi os ydych yn cael damwain neu salwch ac yn methu gwneud eich penderfyniadau eich hun ('nad oes gennych alluedd meddyliol').

Mae 2 fath o’r LPA:

  • iechyd a lles
  • materion ariannol ac eiddo

Gallwch ddewis gwneud un fath neu'r ddau.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Gwneud, cofrestru neu roi terfyn ar atwrneiaeth arhosol: Trosolwg - GOV.UK (www.gov.uk)

Yng nghyfraith y DU cyfeirir at blant mewn gofal fel "plant sy'n derbyn gofal". Mae plentyn yn "derbyn gofal" os yw yng ngofal yr awdurdod lleol am fwy na 24 awr. Yn gyfreithiol, gallai hyn fod pan fyddant yn:

• byw mewn llety a ddarperir gan yr awdurdod lleol gyda chytundeb y rhieni.

• ddeiliad gorchymyn gofal llawn neu dros dro.

• deiliad gorchymyn cyfreithiol brys i'w symud o berygl uniongyrchol.

• treulio amser neu ar remánd mewn cartref diogel i blant, canolfan hyfforddi ddiogel neu sefydliad troseddwyr ifanc.

• plentyn ar ei ben ei hun sy’n ceisio lloches

Bydd plentyn yn rhoi'r gorau i fod yn "derbyn gofal" pan fydd naill ai'n cael ei fabwysiadu, yn dychwelyd adref neu'n troi'n 18 oed. Dan y Canllaw Pan Fydda i'n Barod, bydd yr awdurdod lleol yn parhau i gefnogi plant sy'n gadael gofal yn 18 oed nes eu bod yn cyrraedd 21 neu 25 oed os ydyn nhw mewn addysg.

I gael rhagor o wybodaeth am Ddeddf Plant 2014, ewch i Wefan y Llywodraeth

Maethu Preifat

Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn gofalu am blentyn rhywun arall, gallai fod yn faethu preifat ac mae angen i chi roi gwybod i Gyngor Sir Powys.

Cysylltwch â Drws Ffrynt Gwasanaethau Plant trwy,

Email-csfrontdoor@powys.gov.uk

Rhif Ffôn: 01597 827666 (oriau swyddfa) 0845 054 4847 (y tu allan i oriau)

I gael rhagor o wybodaeth am faethu preifat, ewch i wefan Cyngor Sir Powys  

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn cefnogi plant a phobl ifanc i gael gwybod am eu hawliau dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP). 

Mae'r Comisiynydd Plant yn gweithio i bob plentyn yng Nghymru sydd hyd at 18 oed a hyd at 21 oed os ydynt wedi bod mewn gofal, neu 25 os ydynt wedi bod mewn gofal ac yn dal i fod mewn addysg.

Am fwy o wybodaeth, ewch i Comisiynydd Plant Cymru - Dysgwch fwy am ein gwaith (complantcymru.org.uk)

Mae cymorth ar gael; os ydych chi mewn perygl, neu os ydych chi'n poeni am rywun sydd, rydyn ni yma i wrando ac i helpu.

Gallwch ddweud wrth aelod o staff BIAP, dywedwch wrth eich meddyg teulu neu gallwch gysylltu ag un o'r llinellau cymorth neu wasanaeth arbenigol sy'n ddiogel, yn gyfrinachol ac am ddim.

OS YDYCH CHI’N CREDU BOD UNIGOLYN MEWN PERYGL O NIWED AR UNWAITH, DYLECH GYSYLLTU Â’R HEDDLU.

Gallwch roi gwybod am unrhyw fath o gaethwasiaeth fodern drwy ffonio’r llinell gymorth ar 0800 0121 700.

Camfanteisio, yn ei ddiffiniad ehangach, yw cael rhywun i wneud rhywbeth nad ydynt am wneud at ddibenion personol.

Mae llawer o wahanol fathau o gamfanteisio sy’n gallu digwydd, yn effeithio ar blant ac oedolion ac yn arwain at ryw fath o gam-drin neu niwed i’r person, boed yn gorfforol, rhywiol, emosiynol neu ariannol. Mae’r rhain yn cynnwys:

Caethwasiaeth Fodern

Caethwasanaeth Domestig

Llafur dan orfod

Camfanteisio troseddol

Camfanteisio rhywiol

Camfanteisio'n Rhywiol Ar Blant (CSE):

yw math o gam-drin rhywiol a all gynnwys rhyw neu unrhyw fath o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn; cynhyrchu delweddau anweddus a/neu unrhyw ddeunydd anweddus arall sy'n cynnwys plant. Efallai na fydd plentyn yn cydnabod natur ecsbloetiol y berthynas neu'r cyswllt. Efallai y bydd y plant yn teimlo eu bod wedi rhoi cydsyniad.

Mae Stop it Now yn llinell gymorth gyfrinachol i unrhyw un sy'n poeni am ymddygiad plentyn, person ifanc neu oedolion arall tuag at blant. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Stop It Now neu ffoniwch rif y llinell gymorth ar 0808 1000 900

Sefydlwyd y Truth Project i roi cyfle i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin plant yn rhywiol i rannu eu profiadau gyda'r Ymchwiliad Annibynnol Cam-drin Plant yn Rhywiol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar Wefan The Truth Project

Mae Beat Ysgolion Cymru – Rhaglen Ysgolion Heddlu Cymru yn gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru, y pedwar heddlu ledled Cymru am ymateb i adroddiadau o ddigwyddiadau mewn ysgolion. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Beat i Ysgolion Cymru

Ble i fynd am gymorth

Os ydych chi’n poeni a rywun sydd o bosibl mewn perygl o gael ei radicaleiddio, neu os ydych chi’n poeni am rywun yn teithio i, neu’n dychwelyd o wlad tramor, yna dylech siarad â’r heddlu ar 101. Mewn argyfwng, neu i roi gwybod am achos o derfysgaeth, ffoniwch yr heddlu ar 999.

Gallwch hefyd ffonio’r Llinell Gymorth Gwrthderfysgaeth: 0800 789 321

Mae ‘Prevent’ yn rhaglen ddiogelu genedlaethol sy’n cefnogi pobl mewn perygl o fod yn rhan o derfysgaeth drwy radicaleiddio.

Radicaleiddio yw’r broses lle mae person yn dechrau credu mewn terfysgaeth neu gredoau eithafol. Mae grwpiau o derfysgwyr yn aml yn gwneud ymgais i radicaleiddio eraill trwy eu perswadio i ymuno â’u grwp, neu i dderbyn eu hideoleg.

Er nad yw’r arwyddion hyn bob amser yn golygu bod y person yn cael ei radicaleiddio, mae rhai arwyddion ehangach o radicaleiddio yn cynnwys:

  • ynysu ei hun ymhellach oddi wrth y teulu a’i ffrindiau
  • siarad fel pe bai’n darllen oddi ar sgript
  • amharodrwydd neu anallu i drafod ei gredoau
  • ymddygiad amharchus sydyn tuag at eraill
  • lefelau uwch o ddicter
  • yn fwy cyfrinachol, yn enwedig wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd.

 

I roi gwybod am gam-drin neu i gyrchu cyngor a chymorth, cysylltwch â

  • Drws Ffrynt Powys (plant) - 01597 827666
  • CYMORTH Powys (oedolion) - 0345 602 7050
  • Tu Allan i Oriau - 0345 054 4847 

Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Cyngor Sir Powys 

Os oes rhywun mewn perygl uniongyrchol, cysylltwch â'r Heddlu drwy ffonio 999.

Mae Byw Heb Ofn yn llinell gymorth genedlaethol ac yn lloches i ddioddefwyr cam-drin domestig. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Byw Heb Ofn Neu ffoniwch 0808 802 4040

Mae Gwasanaeth Cam-drin Domestig CALAN (CALAN DVS) yn cynnig cymorth i ddioddefwyr o gam-drin domestig yn Ne Powys. Am fwy o wybodaeth, ewch i  wefan CALAN DVS neu ffoniwch 01874 625146

‘New Pathways’ sy’n darparu cefnogaeth i ddioddefwyr trais, cam-drin rhywiol neu gam-drin. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan New Pathways Neu cysylltwch â 01685 379310

Mae Canolfan Argyfwng Teuluoedd Sir Drefaldwyn (CATSD) yn cynnig cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig yng Ngogledd Powys. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan CATSD Neu cysylltwch â 01686 629114

Mae Samariaid Cymru yn gweithio gyda phobl i greu gofod diogel li siarad am yr hyn sy’n digwydd a sut y maen nhw’n teimlo.  Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Samariaid Cymru neu gallwch gysylltu â 116 123 i siarad ag un o’r Samariaid. 

Mae gwefan Llywodraeth y DU yn cynnig ystod o ddogfennau a deunydd hysbysebu sy’n ymwneud â gwaith y Llywodraeth i roi diwedd ar Gaethwasiaeth Fodern.

Ffoniwch linell gymorth caethwasiaeth fodern ar 0800 0121 700 neu rhowch wybod ar-lein.

Mae BAWSO yn darparu dulliau atal, amddiffyniad a chymorth ymarferol ac emosiynol i bobl du a lleiafrif ethnig a dioddefwyr mudol cam-drin domestig, anffurfio organau cenhedlu benywod, Priodas dan Orfod , Trais ar sail Anrhydedd, Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan BAWSO neu cysylltwch â 0800 7318147

Mae NSPCC yn gweithio i atal cam-drin, helpu ailadeiladu bywydau plant a chefnogi teuluoedd.  Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan NSPCC neu cysylltwch â 0808 800 5000

Mae Childline yn wasanaeth rhad ac am ddim, preifat a chyfrinachol i unrhyw un dan 19 oed yn y DU.  Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Childline neu cysylltwch â 0800 1111

Mae Hourglass Cymru yn llais cenedlaethol i bobl hŷn sydd mewn perygl.  Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Hourglass Cymru neu cysylltwch â 0808 808 8141

Mae Kaleidoscope yn cynnig cymorth i bobl sy’n brwydro yn erbyn caethiwed i gyffuriau ac alcohol.  Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Kaleidoscope neu cysylltwch â 01633 811950

Mae Age Cymru yn cynnig gwasanaeth eiriolaeth i gleientiaid sy’n cyflwyno â Dementia. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan AGE Cymru neu cysylltwch â 0300 3034498

Mae TGP Canolbarth a Gorllewin Cymru yn wasanaeth eiriolaeth i’r rheini sydd 0-25 oed ac yn derbyn gofal gan Wasanaethau Cymdeithasol, rhywun sydd wedi gadael gofal, ar y gofrestr amddiffyn plant neu blentyn sydd angen gofal a chymorth. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan TGP Canolbarth a Gorllewin Cymru neu cysylltwch â 01982 552450 neu Rhadffôn: 0800 085 8471

Mae Gwasanaethau Eirioli Annibynnol BCA yn cynnig eiriolaeth i oedolion ag anabledd dysgu neu anghenion cymorth uchel. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Gwasanaethau Eirioli Annibynnol BCA neu cysylltwch â 01874 622240

Mae HOPE yn wasanaeth eirioli annibynnol gwirfoddol sy’n cefnogi pobl hŷn (50+) a gofalwyr.  Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan HOPE

Mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn cynnig cymorth eiriolaeth i bobl fyddar lle mae eu hiaith gyntaf yn BSL (Iaith Arwyddion Prydain).  Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain neu cysylltwch â cao.wales.@bda.org.uk

Mae LLAIS yn wasanaeth eirioli sy’n helpu rhannu barn neu godi pryderon am Ofal y GIG. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan LLAIS neu cysylltwch â 01874 01874 624206/01686 627632

Rhannu:
Cyswllt: