Neidio i'r prif gynnwy
Charles Patterson

Hwyluslydd Digidol

Amdanaf i

Hwyluslydd Digidol

Ymunodd Charles â'r tîm ym mis Awst 2020 fel Hwylusydd Digidol. Mae ganddo gefndir mewn newid busnes trawsnewidiol a rheoli prosiectau a gafwyd o yrfa helaeth gyda Barclays, Grŵp NatWest ac mewn ymgynghori â gwasanaethau ariannol.

Mae ei rôl fel Hwylusydd Digidol yn dod ag ef i gysylltiad â phobl o bob rhan o Wasanaeth Byw'n Dda Powys, a'r Bwrdd Iechyd. Mae'n helpu pobl i gysylltu â Microsoft Teams ac Attend Anywhere i sicrhau eu bod yn gallu mynychu eu hapwyntiadau clinigol rhithwir a sesiynau iechyd a lles grŵp, o gysur eu cartref, swyddfa, neu amgylchedd cyfrinachol arall. Mae'n gweithio gyda phob unigolyn yn gwrando ar eu hanghenion ac yn darparu cymorth priodol yn seiliedig ar eu hamgylchiadau.

Mae ei rôl yn cynnwys gofalu am y Llwyfan Hyfforddiant Cymunedol ar gyfer y Bwrdd Iechyd. Mae hyn yn cynnwys llyfrgell e-ddysgu ac mae ar gael i weithwyr a phobl Powys.

Rhannu:
Cyswllt: