Dechreuodd Julia weithio i'r gwasanaeth yn 2023 ac mae'n feddyg teulu profiadol sydd â diddordeb arbennig mewn rheoli cyflyrau hirdymor, ar ôl gweithio mewn ystod eang o leoliadau dros y blynyddoedd, o ganol y ddinas i ogledd Powys wledig.
Y tu allan i'r gwaith mae hi wrth ei bodd ag ymarfer myfyrdod sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar, gweithgareddau cysylltu â natur a'r celfyddydau. Dywed “Rwy'n hapus i fod yn rhan o dîm amlddisgyblaethol mor gyffrous, yn cefnogi iechyd a lles i'r rhai sy'n wynebu her cyflyrau hirdymor ym Mhowys”.
Yn ei rôl bydd hi'n bennaf yn cynnal asesiadau un i un gyda phobl, ac yn cefnogi'r tîm yn ei broses o wneud penderfyniadau tîm amlddisgyblaethol.