Rheolwr Prosiect Digidol
Rheolwr Prosiect Digidol
Mae Katie wedi gweithio yn y GIG ers dros 15 mlynedd ac, ers mis Ebrill 2024, mae wedi bod yn Rheolwr Prosiect Digidol ar gyfer Gwasanaeth Byw’n Dda Powys. Yn y rôl hon, mae'n gyrru arloesedd ac yn gwella arlwy digidol y gwasanaeth, gan oruchwylio datblygiad datrysiadau digidol a chreu cynnwys sy'n cyd-fynd â gwerthoedd y gwasanaeth. Maes allweddol o’i harbenigedd yw datblygu ac optimeiddio llwyfannau cyfryngau i hybu ymgysylltiad digidol, gan sicrhau bod cynnwys ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth ac aelodau’r tîm yn hygyrch, yn ddeniadol ac yn effeithiol. Mae hi’n angerddol am archwilio technolegau newydd ac offer amlgyfrwng i ehangu cyrhaeddiad ac effaith gwasanaethau digidol.
Ymunodd Katie â Gwasanaeth Byw’n Dda Powys ym mis Mehefin 2016 ac mae ganddi 8 mlynedd o brofiad fel Hwylusydd Digidol. Yn y rôl hon, rhoddodd gefnogaeth amhrisiadwy i ddefnyddwyr gwasanaeth, gan eu galluogi i ymuno ag apwyntiadau unigol neu raglenni grŵp trwy lwyfannau fel Microsoft Teams ac Attend Anywhere.
Mae hi'n ymfalchïo mewn grymuso pobl trwy dechnoleg i gyfoethogi eu bywydau. Yn ogystal, mae’n cynnig cymorth digidol mewnol i aelodau’r tîm, gan ei chael yn hynod werth chweil helpu ei chydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau digidol a bob amser yn awyddus i rannu ei gwybodaeth a’i harbenigedd.
Wedi ymrwymo i ddarparu cynnwys digidol o ansawdd uchel, mae hi’n chwilio’n barhaus am ffyrdd arloesol o wella’r gwasanaeth a’i harbenigedd ei hun yn y maes deinamig hwn sy’n esblygu’n barhaus.