Rheolwr Busnes
Rheolwr Busnes
Mae gan Tim gefndir mewn dysgu a datblygu, ar ôl treulio nifer o flynyddoedd fel athro ysgol uwchradd ac uwch arholwr cyn cymryd rôl arweiniol wrth ddatblygu platfform hyfforddi ar gyfer un o gwmnïau yswiriant mwyaf y DU.
Ar hyn o bryd mae'n Gymrawd Bevan, gyda diddordeb arbennig mewn datblygu gwasanaethau iechyd cynhwysol a hygyrch mewn ardaloedd gwledig. Mae hefyd yn cadeirio Cymuned Ymarfer genedlaethol ar gyfer Cynhwysiant Digidol a Hygyrchedd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.
Mae Tim wedi bod yn rhan o Wasanaeth Byw'n Dda Powys ers mis Ebrill 2021, i ddechrau fel Hwylusydd Digidol Arweiniol ac yna Rheolwr Busnes. Mae ei rôl yn cynnwys rheoli darpariaeth weithredol y gwasanaeth gan gynnwys darparu cefnogaeth i'w holl brosiectau digidol, o'r ffordd y mae'r gwasanaeth yn defnyddio systemau clinigol hyd at helpu pobl i gael mynediad at ymgynghoriadau ar-lein.