Neidio i'r prif gynnwy

Rheoli Pwysau

Noder nad gwasanaeth diagnostig yw PLWS. Rydym yn disgwyl i atgyfeirwyr archwilio, ymchwilio ac atgyfeirio at arbenigeddau eraill yn ôl yr angen.

Y meini prawf ar gyfer mynediad i'r gwasanaeth Lefel 3 yw:

  • BMI>40* neu
  • BMI>35* gyda chlefydau cydredol
  • Awydd i leihau pwysau
  • Parodrwydd i fynychu rhaglenni rheoli ffordd o fyw byw'n dda Powys
  • Dros 18 oed

(*Trothwy BMI < 2.5kg ar gyfer pobl o grwpiau Affricanaidd du, Affricanaidd-Caribïaidd ac Asiaidd)

 

Rhaid cynnwys y canlyniadau canlynol o fewn y 3 mis diwethaf yn yr atgyfeiriad i'r gwasanaeth Lefel 3 hwn. Dilynwch unrhyw annormaleddau a'u trin yn ôl yr angen, gan roi manylion yn y llythyr atgyfeirio:

  • BMI (pwysau a thaldra)
  • Pwysedd gwaed
  • Wrea ac electrolytau (U&Es)
  • Proffil lipid ymprydio gan gynnwys triglyseridau
  • HbA1C
  • Prawf swyddogaeth thyroid gan gynnwys TSH
  • Prawf swyddogaeth yr afu – gan gynnwys transaminas alanîn (ALT)

 

Adnoddau ar gyfer atgyfeirwyr

Gweler y cyngor canlynol sy'n seiliedig ar dystiolaeth

Rhannu:
Cyswllt: