Neidio i'r prif gynnwy

Byw'n Dda gyda Poen a Blinder

 
Mae Byw'n Dda gyda Poen a Blinder yn rhaglen wyth modiwl sy'n edrych ar wahanol agweddau ar reoli poen parhaus a/neu flinder. Mae pob modiwl yn seiliedig ar y dystiolaeth ymchwil ddiweddaraf.
 
 
Cyn pob modiwl ar-lein gofynnir i chi wylio cyfres o fideos byr yn ymwneud â thestun y modiwl. Yna byddwn yn trafod y cynnwys yn y modiwl.
Mae’r sesiynau wedi’u cynllunio ar gyfer pobl sydd â phoen neu flinder parhaus ac sy’n edrych ar ffyrdd o reoli’n well a byw’n dda gyda chyflwr hirdymor.
Cyn mynychu'r rhaglen, bydd gofyn i chi fynychu asesiad.
Rhannu:
Cyswllt: