Neidio i'r prif gynnwy

Canolbarth a De Powys: Gwybodaeth am driniaeth cyflwr - Anawsterau Clyw

Os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch clyw, bydd yr Awdiolegydd yn archwilio'ch clustiau ac yn cynnal Asesiad Clyw. Os bydd yr archwiliad yn datgelu bod nam sylfaenol ar y clyw, bydd yr Awdiolegydd yn trafod opsiynau triniaeth gyda chi ac yn gwneud atgyfeiriad os oes angen.

Yn ystod yr Asesiad Clyw, bydd yr Awdiolegydd yn gofyn llawer o gwestiynau am eich clustiau a'r anawsterau clyw rydych chi'n eu profi. Mae'r asesiad yn cynnwys edrych i mewn i'ch clustiau a phrofi'ch clyw trwy chwarae cyfres o synau trwy set o glustffonau, a gofyn i chi ymateb i bob un rydych chi'n ei glywed trwy wasgu botwm. Byddwch yn derbyn eich canlyniadau o fewn yr apwyntiad a bydd eich Awdiolegydd yn trafod eich opsiynau rheoli o'r fan hon.

Rhannu:
Cyswllt: