Mae Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG ar gael yng Nghymru o fis Ebrill 2026.
Mae Taliadau Uniongyrchol yn eich galluogi i drefnu gwasanaethau gofal neu gymorth eich hun yn lle derbyn pecyn o ofal neu gymorth a drefnir gan y GIG.
Mae angen i chi fod wedi cael asesiad Gofal Iechyd Parhaus y GIG a bod yn gymwys i gael Gofal Iechyd Parhaus y GIG er mwyn derbyn Taliadau Uniongyrchol.
Mae Taliadau Uniongyrchol yn golygu y gallwch gael mwy o reolaeth dros y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch, a gwneud dewisiadau pwysig am eich Gofal Iechyd Parhaus y GIG. Fodd bynnag, rhaid defnyddio'r taliadau i ddiwallu'r anghenion y mae'r gwasanaethau cymdeithasol wedi cytuno y dylech gael cymorth ar eu cyfer.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Taliadau Uniongyrchol, mae angen i ni fod yn fodlon y gellir diwallu eich anghenion yn y ffordd hon a'ch bod yn gallu rheoli'r Taliadau Uniongyrchol, naill ai ar eich pen eich hun neu gyda chymorth a chefnogaeth.