Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol: Anableddau Dysgu Oedolion

Oedolyn gwyn gwrywaidd gydag anabledd dysgu sy
Beth yw’r gwasanaeth a beth sydd ganddo i’w gynnig:

Mae'r Tîm Therapi Galwedigaethol Anableddau Dysgu Oedolion yn asesu ac yn datrys problemau tasgau bywyd bob dydd fel bwyta, gwisgo neu hunanofal, ar gyfer oedolion 18 oed a hŷn sydd ag Anableddau Dysgu. Gallwn barhau i'ch gweld drwy gydol eich oes ar wahanol adegau wrth i'ch anghenion newid.

Ein nod yw gweithio ochr yn ochr â chi, eich teulu a'ch gofalwyr. Mae hyn er mwyn eich galluogi i gymryd rhan ym mhob agwedd ar eich bywyd, gan gynnwys:

  • Sgiliau bywyd bob dydd, er enghraifft coginio a hunanofal
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden.
  • Sgiliau byw yn y gymuned
  • Rheoli ffordd o fyw, enghraifft sut i ymdopi â gwahaniaethau synhwyraidd

Gellir cynnig mewnbwn ar gyfer ymddygiad sy'n herio, neu ar gyfer anawsterau prosesu synhwyraidd. Gyda'n gilydd, rydym yn cytuno ar ddull rheoli ymddygiad cadarnhaol a chynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Gweler y ddolen ganlynol ar gyfer taflen Hawdd ei Darllen sy'n disgrifio'r gwasanaeth:

Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol: Anableddau Dysgu Oedolion - Taflen Hawdd ei Darllen sy'n disgrifio'r gwasanaeth - [Saesneg yn Unig]

 

 

Lleoliadau'r gwasanaeth:

Mae hwn yn wasanaeth ledled Powys sy'n cael ei ddarparu ar draws y gymuned. Cyflwynir asesiadau a therapi mewn lleoliad priodol i ddiwallu anghenion pobl, megis yn eich cartref, canolfan ddydd, canolfan addysg neu hamdden, neu yn ein clinigau. Gellir casglu rhywfaint o wybodaeth gychwynnol gan ddefnyddio galwadau ffôn neu fideoalwadau diogel, fel trwy'r system Attend Anywhere.

Mae rhagor o wybodaeth ar gynnal apwyntiadau ac arweiniad ar sut i ddefnyddio'r dull digidol hwn ar gael ar y ddolen ganlynol:

Clinigau Rhithwir gydag Attend Anywhere - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

 

 
Sut allwch chi weld y gwasanaeth:

Rydym yn derbyn hunanatgyfeiriadau ar gyfer oedolion 18 oed a hŷn - gweler y ffurflen atgyfeirio ddigidol yn y ddolen ganlynol:

 

Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol: Anableddau Dysgu Oedolion - Ffurflen Atgyfeirio Ddigidol - [Saesneg yn Unig]

 

Rydym hefyd yn derbyn atgyfeiriadau gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill (gweler y wybodaeth yn yr adran nesaf). Gellir trafod ymholiadau atgyfeirio cychwynnol dros y ffôn hefyd, cyn cyflwyno yn ysgrifenedig, naill ai drwy e-bost neu'r post – gweler y manylion cyswllt yn yr adran 'Cysylltu â'r gwasanaeth' isod.

 

 

 
Cyngor ar feini prawf atgyfeirio i weithwyr iechyd proffesiynol:

Rydym yn derbyn atgyfeiriadau ar gyfer oedolion 18 oed a hŷn sydd â diagnosis o anabledd dysgu ac na ellir diwallu eu hanghenion gan wasanaethau Therapi Galwedigaethol prif ffrwd, sydd hefyd angen cymorth gyda gweithgareddau bywyd bob dydd fel hunanofal a chael mynediad at y gymuned. Rydym yn gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol integredig gyda Nyrsys Anableddau Dysgu, Seicoleg, Seiciatreg a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd eraill.

Os mai offer neu fân addasiadau yw'r prif gais e.e. rheiliau i fynd tu allan, gall y Therapydd Galwedigaethol annog defnyddio'r gwasanaethau Therapi Galwedigaethol Cymunedol. Os yw ymddygiad sy'n herio yn gwneud hyn yn gymhleth, gall y Therapydd Galwedigaethol weithio ochr yn ochr â'r tîm cymunedol. Ar gyfer atgyfeiriadau, defnyddiwch y ffurflen atgyfeirio sydd wedi'i hatodi isod:

 

Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol: Anableddau Dysgu Oedolion - Ffurflen Atgyfeirio Ddigidol - [Saesneg yn Unig]

 

 

Beth ddylech chi ddisgwyl yn ystod apwyntiadau:

Bydd staff Therapi Galwedigaethol yn treulio amser yn dod i’ch adnabod chi, eich trefn ddyddiol a beth sy’n bwysig i chi. Bydd hyn yn cynnwys siarad am eich iechyd ac anawsterau cyfredol, yn ogystal â’ch diddordebau a ffordd o fyw.

Efallai y byddwn yn eich gweld chi yn eich cartref, neu drwy apwyntiad rhithwir (fideoalwad ar-lein) neu apwyntiad dros y ffôn. Efallai y gofynnwn i chi ddod i’n hadeilad, ac os ydych, gallwch ddod â ffrind neu rywun sy’n gofalu amdanoch gyda chi i’r apwyntiad.

Gall y Therapydd Galwedigaethol ddefnyddio asesiadau ffurfiol i helpu casglu amryw o wybodaeth. Bydd y wybodaeth hon yn helpu wrth gynllunio eich rhaglen driniaeth unigryw.

Gall hyn gynnwys ymarfer sgiliau y cytunwyd arnynt fesul cam yn eich cartref neu yn y gymuned. Bydd y Therapydd Galwedigaethol yn eich helpu chi ddewis beth sy’n bwysicach i chi er mwyn dechrau arni.

 

 

Adnoddau cyngor a chymorth:

 

 

Cysylltu â’r gwasanaeth:

Os hoffech gael eich gweld gan y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Anableddau Dysgu Oedolion, rydym yn derbyn hunanatgyfeiriadau ar gyfer oedolion 18 oed a hŷn gweler y ffurflen atgyfeirio sydd wedi'i hatodi uchod, yn yr adran 'Sut allwch chi weld y gwasanaeth'.

Rydym hefyd yn derbyn atgyfeiriadau gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill – gweler y ffurflen atgyfeirio sydd wedi'i hatodi uchod, yn yr adran 'Cyngor ar feini prawf atgyfeirio i weithwyr iechyd proffesiynol'.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau cyffredinol, gellir cysylltu â'r Tîm Therapi Galwedigaethol Anableddau Dysgu Oedolion trwy'r manylion canlynol:

 

E-bost:

  • I swyddfa De a Gogledd Powys:

Powys.learningdisabilityteam@wales.nhs.uk

 

Phone:

  • Swyddfa De Powys:   (01874) 712644
  • Swyddfa Gogledd Powys:    (01686) 252086

 

Cyfeiriad:

  • Swyddfa De Powys:
Tîm Therapi Galwedigaethol Anableddau Dysgu
Swyddfa’r De
Ward Erwood
Ysbyty Bronllys
Bronllys
Powys
LD3 0LU

 

  • Swyddfa Gogledd Powys:
Tîm Therapi Galwedigaethol Anableddau Dysgu
Swyddfa’r Gogledd
Swyddfa’r Parc
Stryd y Parc
Y Drenewydd
Powys
SY16 1EG
 
 
 

 

 

Ein tîm:

O fewn y Tîm Anableddau Dysgu Oedolion Therapi Galwedigaethol mae Therapyddion Galwedigaethol cofrestredig a Gweithwyr Cymorth (Technegwyr ThG).

Mae'r Anableddau Dysgu (AD) yn gweithio'n agos o fewn y Tîm Amlddisgyblaethol sy'n cynnwys:

  • Nyrsys a Chynorthwywyr AD
  • Seicolegwyr a Chynorthwywyr
  • Seicaiatryddion
  • Ffisiotherapyddion
  • Therapyddion Iaith a Lleferydd a’u Cynorthwywyr

Rydyn ni hefyd yn cysylltu ag amryw o wasanaethau lleol, gan gynnwys:

  • Canolfannau Dydd
  • Sefydliadau gwirfoddol
  • Therapyddion Galwedigaethol Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Gwasanaethau Cymdeithasol

 

 

Adborth y Claf:

Rydym yn croesawu unrhyw adborth a allai fod gennych am eich profiad gyda'r Tîm Anabledd Dysgu ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP).

Gallwch gyrchu ein harolwg adborth trwy glicio ar y ddolen ganlynol, neu drwy sganio'r ddelwedd cod QR cysylltiedig isod gyda ffôn clyfar / dyfais arall os ydych yn dymuno cwblhau'r arolwg trwy ddyfais wahanol (bydd hyn yn mynd â chi i'r un lleoliad tudalen we â'r ddolen).

 

Dolen at arolwg adborth y claf:

Adborth y Claf–  Gwasanaeth Anabledd Dysgu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

 

Delwedd o god QR at arolwg adborth y claf:

Rhannu:
Cyswllt: