Mae'r Tîm Therapi Galwedigaethol Anableddau Dysgu Oedolion yn asesu ac yn datrys problemau tasgau bywyd bob dydd fel bwyta, gwisgo neu hunanofal, ar gyfer oedolion 18 oed a hŷn sydd ag Anableddau Dysgu. Gallwn barhau i'ch gweld drwy gydol eich oes ar wahanol adegau wrth i'ch anghenion newid.
Ein nod yw gweithio ochr yn ochr â chi, eich teulu a'ch gofalwyr. Mae hyn er mwyn eich galluogi i gymryd rhan ym mhob agwedd ar eich bywyd, gan gynnwys:
Gellir cynnig mewnbwn ar gyfer ymddygiad sy'n herio, neu ar gyfer anawsterau prosesu synhwyraidd. Gyda'n gilydd, rydym yn cytuno ar ddull rheoli ymddygiad cadarnhaol a chynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Gweler y ddolen ganlynol ar gyfer taflen Hawdd ei Darllen sy'n disgrifio'r gwasanaeth:
Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol: Anableddau Dysgu Oedolion - Taflen Hawdd ei Darllen sy'n disgrifio'r gwasanaeth - [Saesneg yn Unig]
Mae hwn yn wasanaeth ledled Powys sy'n cael ei ddarparu ar draws y gymuned. Cyflwynir asesiadau a therapi mewn lleoliad priodol i ddiwallu anghenion pobl, megis yn eich cartref, canolfan ddydd, canolfan addysg neu hamdden, neu yn ein clinigau. Gellir casglu rhywfaint o wybodaeth gychwynnol gan ddefnyddio galwadau ffôn neu fideoalwadau diogel, fel trwy'r system Attend Anywhere.
Mae rhagor o wybodaeth ar gynnal apwyntiadau ac arweiniad ar sut i ddefnyddio'r dull digidol hwn ar gael ar y ddolen ganlynol:
Clinigau Rhithwir gydag Attend Anywhere - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)
Rydym yn derbyn hunanatgyfeiriadau ar gyfer oedolion 18 oed a hŷn - gweler y ffurflen atgyfeirio ddigidol yn y ddolen ganlynol:
Rydym hefyd yn derbyn atgyfeiriadau gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill (gweler y wybodaeth yn yr adran nesaf). Gellir trafod ymholiadau atgyfeirio cychwynnol dros y ffôn hefyd, cyn cyflwyno yn ysgrifenedig, naill ai drwy e-bost neu'r post – gweler y manylion cyswllt yn yr adran 'Cysylltu â'r gwasanaeth' isod.
Rydym yn derbyn atgyfeiriadau ar gyfer oedolion 18 oed a hŷn sydd â diagnosis o anabledd dysgu ac na ellir diwallu eu hanghenion gan wasanaethau Therapi Galwedigaethol prif ffrwd, sydd hefyd angen cymorth gyda gweithgareddau bywyd bob dydd fel hunanofal a chael mynediad at y gymuned. Rydym yn gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol integredig gyda Nyrsys Anableddau Dysgu, Seicoleg, Seiciatreg a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd eraill.
Os mai offer neu fân addasiadau yw'r prif gais e.e. rheiliau i fynd tu allan, gall y Therapydd Galwedigaethol annog defnyddio'r gwasanaethau Therapi Galwedigaethol Cymunedol. Os yw ymddygiad sy'n herio yn gwneud hyn yn gymhleth, gall y Therapydd Galwedigaethol weithio ochr yn ochr â'r tîm cymunedol. Ar gyfer atgyfeiriadau, defnyddiwch y ffurflen atgyfeirio sydd wedi'i hatodi isod:
Bydd staff Therapi Galwedigaethol yn treulio amser yn dod i’ch adnabod chi, eich trefn ddyddiol a beth sy’n bwysig i chi. Bydd hyn yn cynnwys siarad am eich iechyd ac anawsterau cyfredol, yn ogystal â’ch diddordebau a ffordd o fyw.
Efallai y byddwn yn eich gweld chi yn eich cartref, neu drwy apwyntiad rhithwir (fideoalwad ar-lein) neu apwyntiad dros y ffôn. Efallai y gofynnwn i chi ddod i’n hadeilad, ac os ydych, gallwch ddod â ffrind neu rywun sy’n gofalu amdanoch gyda chi i’r apwyntiad.
Gall y Therapydd Galwedigaethol ddefnyddio asesiadau ffurfiol i helpu casglu amryw o wybodaeth. Bydd y wybodaeth hon yn helpu wrth gynllunio eich rhaglen driniaeth unigryw.
Gall hyn gynnwys ymarfer sgiliau y cytunwyd arnynt fesul cam yn eich cartref neu yn y gymuned. Bydd y Therapydd Galwedigaethol yn eich helpu chi ddewis beth sy’n bwysicach i chi er mwyn dechrau arni.
Os hoffech gael eich gweld gan y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Anableddau Dysgu Oedolion, rydym yn derbyn hunanatgyfeiriadau ar gyfer oedolion 18 oed a hŷn gweler y ffurflen atgyfeirio sydd wedi'i hatodi uchod, yn yr adran 'Sut allwch chi weld y gwasanaeth'.
Rydym hefyd yn derbyn atgyfeiriadau gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill – gweler y ffurflen atgyfeirio sydd wedi'i hatodi uchod, yn yr adran 'Cyngor ar feini prawf atgyfeirio i weithwyr iechyd proffesiynol'.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau cyffredinol, gellir cysylltu â'r Tîm Therapi Galwedigaethol Anableddau Dysgu Oedolion trwy'r manylion canlynol:
E-bost:
Powys.learningdisabilityteam@wales.nhs.uk
Phone:
Cyfeiriad:
O fewn y Tîm Anableddau Dysgu Oedolion Therapi Galwedigaethol mae Therapyddion Galwedigaethol cofrestredig a Gweithwyr Cymorth (Technegwyr ThG).
Mae'r Anableddau Dysgu (AD) yn gweithio'n agos o fewn y Tîm Amlddisgyblaethol sy'n cynnwys:
Rydyn ni hefyd yn cysylltu ag amryw o wasanaethau lleol, gan gynnwys:
Rydym yn croesawu unrhyw adborth a allai fod gennych am eich profiad gyda'r Tîm Anabledd Dysgu ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP).
Gallwch gyrchu ein harolwg adborth trwy glicio ar y ddolen ganlynol, neu drwy sganio'r ddelwedd cod QR cysylltiedig isod gyda ffôn clyfar / dyfais arall os ydych yn dymuno cwblhau'r arolwg trwy ddyfais wahanol (bydd hyn yn mynd â chi i'r un lleoliad tudalen we â'r ddolen).
Dolen at arolwg adborth y claf:
Adborth y Claf– Gwasanaeth Anabledd Dysgu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Delwedd o god QR at arolwg adborth y claf: