Bydd y Therapydd Galwedigaethol Llaw yn asesu eich llaw/dwylo ac yn rhoi gwybodaeth, cyngor a therapi priodol i chi i'ch helpu cyflawni'r defnydd gorau posibl o'ch llaw/dwylo. Mae'r gwasanaeth yn ystyried effaith swyddogaeth eich llaw yn ystod gweithgareddau cartref, gwaith a hamdden.
Bydd y Therapydd Galwedigaethol yn gweithio gyda chi i gytuno ar gynllun triniaeth wedi'i bersonoli, er mwyn cyflawni'r canlyniadau iechyd sy'n bwysig i chi. Bydd y cynllun yn cynnwys ystyried eich statws corfforol a seicolegol, yn ogystal â'ch rôl a'ch cyfrifoldebau cymdeithasol. Bydd y Therapydd Galwedigaethol yn cyfathrebu ar eich rhan, yn ôl yr angen, ag aelodau eraill y tîm meddygol.
Mae'r gwasanaeth yn darparu'r mathau canlynol o driniaeth:
Mae sblint yn ddyfais a ddefnyddir i helpu cefnogi, gorffwys, amddiffyn neu gynorthwyo swyddogaeth. Fel arfer mae'n cael ei wneud o ddeunydd plastig ac weithiau caiff ei fowldio yn unigol i ffitio'ch llaw/dwylo. Mae'r ystod o sblintiau sydd ar gael yn cynnwys y rhai a wneir ar gyfer yr unigolyn gan ddefnyddio thermoplastig neu ddeunydd tebyg, a wneir yn ystod apwyntiad, neu sblintiau a weithgynhyrchir wedi'u gwneud o blastig cadarn neu ddeunydd meddal.
Cynhelir clinigau Therapi Llaw yn ystod yr wythnos ar safleoedd canlynol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP):
Gellir cwblhau ymweliadau cartref lle bo'r Therapydd Galwedigaethol yn eu hystyried yn angenrheidiol.
Defnyddir galwadau fideo rhithwir (ar-lein trwy'r rhyngrwyd) hefyd i asesu a thrin, yn ogystal â dros y ffôn ac e-bost.
Gall pobl 18 oed a hŷn sydd ag anghenion adsefydlu sy'n gysylltiedig â’r llaw ac sy'n byw ym Mhowys gael mynediad i'r Gwasanaeth Therapi Llaw.
Ni all y gwasanaeth ymateb i anafiadau llaw acíwt neu argyfyngau. Yn yr achos hwn, fe'ch cynghorir i geisio asesiad meddygol gan eich meddyg teulu, Uned Mân Anafiadau (MIU) neu Uned Damweiniau ac Achosion Brys (A&E).
I gyrchu’r Gwasanaeth Therapi Llaw, gallwch gwblhau'r ffurflen hunanatgyfeirio sydd ar gael yn y ddolen ganlynol. Fel arall, gallwch gysylltu â'r gwasanaeth dros y ffôn (gallwch ddod o hyd i’r manylion cyswllt ar waelod y dudalen hon):
Unwaith y derbynnir atgyfeiriad, caiff ei wirio, ei flaenoriaethu a'i neilltuo i'r rhestr aros ar gyfer y clinig therapi llaw agosaf at eich cyfeiriad cartref. Byddwn yn cysylltu â chi os oes angen rhagor o fanylion neu os ystyrir bod y cais am atgyfeiriad yn amhriodol ar gyfer y gwasanaeth.
Gan dybio bod yr atgyfeiriad wedi'i gymeradwyo, anfonir llythyr atoch naill ai gyda manylion eich apwyntiad, ynghyd â chais i gadarnhau eich presenoldeb, neu byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn / neges destun.
Gellir derbyn atgyfeiriadau ar gyfer cleifion dan 18 oed hefyd gyda chydsyniad rhieni.
Mae'r cyflyrau sy'n cael eu trin yn cynnwys:
Gofynnwn i chi hefyd gynnwys unrhyw brotocolau rhaid eu dilyn.
Nid yw'r canlynol ar gael trwy'r gwasanaeth hwn:
Gellir creu sblintiau statig thermoplastig, a gellir asesu sblintiau eraill a weithgynhyrchir a'u darparu. Nid yw sblintiau deinamig pwrpasol yn cael eu creu.
Gweler y ddolen ganlynol ar gyfer y ffurflen atgyfeirio i'w defnyddio i atgyfeirio claf at y Gwasanaeth Therapi Llaw. Mae'r ffurflen hon at ddefnydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn unig:
Bydd y Therapydd Galwedigaethol (ThG) yn casglu gwybodaeth gennych chi am eich symptomau sy'n gysylltiedig â'ch dwylo neu'ch cyflwr, gan gynnwys:
Bydd gwybodaeth yn cael ei chasglu drwy amrywiaeth o asesiadau. Gall y rhain gynnwys eich bod yn symud eich llaw ar gais gan y ThG a bydd eich llaw yn cael ei chyffwrdd a'i symud gan y ThG. Mae hyn yn cael ei gwblhau tra'n gwisgo dillad arferol.
Efallai y bydd y cryfder a'r teimlad yn eich llaw hefyd yn cael eu hasesu. Yn ogystal, gallwch roi cynnig ar gymhorthion wedi’u gweithgynhyrchu.
Gall apwyntiad gymryd hyd at 60 munud.
Bydd eich apwyntiad yn cael ei gwblhau naill ai mewn ystafell fawr wedi'i rhannu â llenni neu mewn ystafell ar wahân yn dibynnu ar leoliad. Mae clinigau Therapi Llaw Therapi Galwedigaethol yn gweithio o adrannau Ffisiotherapi yn ysbytai Powys a restrir uchod.
Nid oes derbynfa yn adrannau Ffisiotherapi Ysbytai Cymunedol Ystradgynlais na Bronllys. Defnyddiwch yr ardaloedd aros a bydd eich therapydd yn dod atoch chi.
Os hoffech gael gwarchodwr neu bod eich apwyntiad yn cael ei gynnal yn Gymraeg, cysylltwch â'r gwasanaeth cyn eich apwyntiad.
Gellir cysylltu â'r Gwasanaeth Therapi Llaw drwy'r dulliau canlynol:
E-bost:
Powys.handtherapyservice@wales.nhs.uk
Rhif Ffôn: 07766 474279 neu 01874 615724 (Yn ystod oriau swyddfa yn ystod yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener)
Cyfeiriad:
Darperir y gwasanaeth gan Alison Brown, Therapydd Galwedigaethol Arbenigol Clinigol, sy'n angerddol am wyddoniaeth a chelf therapi llaw. Mae Alison yn aelod o Gymdeithas Therapyddion Dwylo Prydain (CThDP) ac ar hyn o bryd mae'n astudio i fod yn Therapydd Llaw Achrededig. Mae Alison yn gweithio'n bennaf yn ne Powys tra'n darparu rôl ymgynghorol i gydweithwyr Ffisiotherapi a Therapi Galwedigaethol ledled Powys.
Rydym yn croesawu unrhyw adborth a allai fod gennych am eich profiad gyda'r Gwasanaeth Therapi Llaw ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP).
Gallwch gael mynediad at ein harolwg adborth trwy glicio ar y ddolen ganlynol. Fel arall, gallwch sganio'r ddelwedd cod QR cysylltiedig isod gyda ffôn clyfar / dyfais arall os ydych chi am gwblhau'r arolwg trwy ddyfais wahanol. Bydd hyn yn mynd â chi i'r un lleoliad tudalen we â'r ddolen.
Dolen at arolwg adborth y claf:
Adborth y Claf– Gwasanaeth Therapi Llaw Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Delwedd o god QR at arolwg adborth y claf: