12 offer ymarferol a hawdd eu defnyddio gan awdur y Pecyn Cymorth Poen, Pete Moore
Mae'r Pecyn Cymorth 12 Offeryn Poen yn gasgliad o strategaethau ymarferol sydd wedi'u cynllunio i helpu pobl rheoli eu poen parhaus yn fwy effeithiol. Mae'r offer hyn yn cynnwys sgiliau syml ar gyfer gweithgareddau graddol a chynllunio ac ymlacio, i fynd yn ôl ar y trywydd iawn ac yn y sedd yrru. Gweler y ddolen ganlynol am fwy o wybodaeth:
12 Offer Ymarferol i Hunanreoli Poen - Pecyn Cymorth Poen (paintoolkit.org) (Saesneg yn unig)
Mae Action on Pain yn elusen gofrestredig sy'n darparu cymorth a chyngor i bobl y mae poen hirdymor (cronig) yn effeithio arnynt. Mae eu gwefan yn cynnwys amrywiaeth o ddeunyddiau cymorth, cyngor ac arweiniad sy'n canolbwyntio ar boen hirdymor a sut i'w rheoli. Gweler eu gwefan yn y ddolen isod:
Action On Pain (action-on-pain.co.uk) (Saesneg yn unig)
Mae Live Well With Pain yn cael ei redeg gan gynghrair o weithwyr gofal iechyd proffesiynol rheoli poen a phobl sy'n byw gyda phoen parhaus neu sydd wedi byw gydag ef. Gall gwefan Live Well With Pain ddarparu adnoddau i gefnogi ystod eang o bobl. Mae hyn yn cynnwys pobl sy'n byw gyda phoen parhaus, gofalwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n cefnogi pobl i ddatblygu eu sgiliau hunanreoli.
Gweler y wefan Live Well with Pain yn y ddolen ganlynol:
Live Well with Pain (livewellwithpain.co.uk) (Saesneg yn unig)