Elusennau 'Mind' rhanbarthol: Mind Ystradgynlais, Mind Aberhonddu a Mind Canolbarth a Gogledd Powys. Mae'r elusennau rhanbarthol annibynnol hyn yn gysylltiedig â Mind, yr elusen iechyd meddwl genedlaethol. Maent yn darparu ystod o wasanaethau cymorth, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'r rhai sydd angen cymorth iechyd meddwl, gan gynnwys y rhai sydd efallai wedi cael eu heffeithio gan salwch meddwl neu ofid.
Mae gwefannau'r tri sefydliad rhanbarthol ar gael yn y tair dolen ganlynol:
Mind Ystradgynlais (minditv.org.uk) - Ystradgynlais / Cymoedd Abertawe, De Cymru
Mind Aberhonddu a’r Cylch (breconmind.org.uk) – Aberhonddu a’r ardaloedd cyfagos
Mind Canolbarth a Gogledd Powys (mnpmind.org.uk) (Saesneg yn unig) - Ardal Canolbarth a Gogledd Powys
Prosiect Ecotherapi Green Minds Aberhonddu – gwasanaeth ecotherapi cymunedol wedi'i leoli ym Mind Aberhonddu a'r Cylch ym Mhowys, Cymru. Gan ddefnyddio gweithgareddau garddwriaethol, sesiynau cysylltu natur adferol a chrefftau, mae'r prosiect yn cefnogi pobl leol sy'n dymuno gwella eu lles meddyliol, emosiynol a chorfforol. Mae gwefan y prosiect ar gael yn y ddolen ganlynol:
Prosiect Ecotherapi Green Minds Aberhonddu - Hafan (brecongreenminds.co.uk) (Saesneg yn unig)
Ymddiriedolaeth Fathom - Elusen sy'n anelu at hyrwyddo lles corfforol, meddyliol ac ysbrydol gan ddefnyddio crefftau traddodiadol i adfer cysylltiadau â'r corff, natur a chymdeithas. Mae gwefan Ymddiriedolaeth Fathom ar gael yn y ddolen ganlynol:
Fathom Trust (fathomtrust.com) (Saesneg yn unig)
Ponthafren - Sefydliad Corfforedig Elusennol, sy’n anelu at “ddarparu cymuned cyfeillgar, yn cynnig cefnogaeth i’r rhai sydd ei hangen ac i hyrwyddo iechyd meddwl a lles cadarnhaol i bawb”. Mae Ponthafren yn darparu dwy ganolfan lles, dysgu ac adfer yng Ngogledd Powys, ochr yn ochr â gwasanaethau o bell ac allgymorth, i helpu dod â chymunedau at ei gilydd a lleihau'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl. Yn eu canolfannau, mae Ponthafren yn canolbwyntio ar iechyd a lles, gan ddarparu gwasanaeth sy'n cynnwys:
Mae gwefan Ponthafren ar gael yn y ddolen ganlynol:
Ponthafren (ponthafren.org.uk) (Saesneg yn unig)