Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Rheoli Pwysau Oedolion Lefel Dau

Arwyddbost pren gyda phedair saeth, wedi
Cyflwyniad

Mae'r Gwasanaeth Rheoli Pwysau Oedolion Lefel Dau yn cyfrannu at Lwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan 2021. Nod hyn yw cefnogi trigolion Powys sydd dros bwysau ac sy'n dymuno gwneud newidiadau i ddeiet a ffordd o fyw er mwyn sicrhau gwell ansawdd bywyd drwy wella iechyd, lles a cholli pwysau.

 

Beth sy’n rhan o’r Rhaglen Rheoli Pwysau Lefel Dau?

Mae'n cynnwys ymyriadau aml-gydran sy'n mynd i'r afael â deiet, gweithgaredd corfforol a newid ymddygiad, wedi'i ategu gan wyddoniaeth ymddygiadol.

 

Ar gyfer pwy mae'r Rhaglen Rheoli Pwysau Lefel 2?

Mae'r rhaglen yn agored i oedolion sy'n byw ym Mhowys, neu sydd â meddyg teulu ym Mhowys (Meddyg Teulu), sydd naill ai:

  • Gyda Mynegai Màs y Corff (BMI) dros 25kg / m2 ac yn byw gyda chydafiecheddau

NEU

  • Gyda BMI dros 30 kg / m2 ac yn byw heb gydafiecheddau

Gweler y ddolen ganlynol ar gyfer cyfrifo Mynegai Màs y Corff (BMI) ar gyfer oedolion:

Cyfrifo eich Mynegai Màs y Corff (BMI) ar gyfer oedolion - Y GIG (nhs.uk) (Saesneg yn Unig)

 

Nid yw'r rhaglen yn addas ar gyfer unigolion sydd:

  • Gydag anhwylder(au) bwyta actif
  • Yn feichiog
  • Gyda phroblemau camddefnyddio alcohol neu gyffuriau
  • Gydag anhwylder(au) seicotig
  • Gyda Diabetes Math Un heb ei reoli
  • Wedi cael llawdriniaeth fariatrig yn ddiweddar neu'n disgwyl llawdriniaeth

Bydd yr unigolion hyn yn cael eu hasesu gan y Tîm Deieteg ar bwynt atgyfeirio.

 

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn ymuno â'r rhaglen?

Byddwch yn cael y cymhelliant i gyflawni pwysau ac ymgysylltiad iach â chyrsiau. Bydd ymyriadau’n cael eu darparu mewn grwpiau, naill ai'n rhithwir neu wyneb yn wyneb, a dylai cleifion fod yn barod i ymrwymo i sesiynau wythnosol. Cynigir amseroedd grŵp yn hyblyg, lle bo hynny'n bosibl, gan gynnwys gyda'r nos.

Bydd yr amser o fewn y gwasanaeth yn cael ei deilwra i unigolion, ond fel arfer bydd yn para o leiaf 12 wythnos. Ar ddiwedd y cyfnod hwn, bydd cynnydd a bodlonrwydd cleifion yn cael eu gwerthuso ar gyfer datblygu gwasanaethau.

 

Beth alla i ei ddisgwyl o'r Rhaglen Rheoli Pwysau Oedolion Lefel Dau?

Bydd Ymarferwyr Cynorthwyol Deietegol Arbenigol yn eich asesu a'ch cyfeirio at gyfres o gyrsiau sy'n helpu eich cymell a'ch cefnogi i wneud dewisiadau iachach. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Addysg ddeietegol ('Bwyd Doeth am Oes', neu 'Slimming World')
  • Datblygu sgiliau coginio (‘Dewch i Goginio’)
  • Cynyddu ymarfer corff (Y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff)
  • Neu fwy o gefnogaeth wedi'i theilwra yn ôl yr angen.

 

Sut gallaf gyrchu’r Rhaglen Rheoli Pwysau Lefel Dau?

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i'r ffurflen hunanatgyfeirio:

 

Hunanatgyfeirio Ar-lein at Wasanaeth Rheoli Pwysau Lefel Dau ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys

 

Gall Gweithwyr Iechyd Proffesiynol hefyd atgyfeirio unigolion at y Gwasanaeth Rheoli Pwysau Lefel Dau trwy lenwi'r ffurflen atgyfeirio ar-lein ganlynol ar wahân:

 

Atgyfeirio claf at y Gwasanaeth Rheoli Pwysau Lefel Dau ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys - At ddefnydd Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol Gofal Iechyd yn unig

 

Mae hwn hefyd ar gael ar Fewnrwyd Staff Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP).

 

Gwybodaeth i Weithwyr Iechyd a Gofal Proffesiynol
  • Gall cleifion sy'n dymuno colli pwysau, ond nad ydynt yn addas ar gyfer y Gwasanaeth Lefel Dau gael eu hatgyfeirio at glinig. Defnyddiwch y ffurflen ar fewnrwyd BIAP.
  • Mae meini prawf cynnwys BMI yn 2.5 kg / m2 yn is ar gyfer grwpiau Affro Caribïaidd ac Asiaidd oherwydd ffactorau risg uwch.
  • Anogir mynediad at Wasanaethau Lefel Dau yn gryf cyn ystyried atgyfeirio at Wasanaethau Lefel Tri.
  • Mae rhaglenni'n cael eu rhedeg ar draws BIAP mewn safleoedd y bwrdd iechyd a lleoliadau cymunedol neu gan ddefnyddio llwyfannau rhithwir. Bydd trefniadau mynediad arbennig yn cael eu hwyluso lle bo’n bosibl.
  • Atgyfeiriwch bobl ifanc dan 18 oed at y gwasanaeth Deieteg Pediatrig.

 

Cysylltu â’r gwasanaeth

Cysylltwch i gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn: Powys.PublicHealthDietetics@wales.nhs.uk

 

Adnoddau

Colli Pwysau - Iechyd Gwell - Y GIG (nhs.uk) (Saesneg yn unig)

Hafan - Pwysau Iach Byw'n Iach (pwysauiach.cymru)

Cwrs Bwyd Doeth am Oes - Sgiliau Maeth am Oes® (sgiliaumaethamoes.com)

Taflen Ap Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd (sgiliaumaethamoes.com)

Rhannu:
Cyswllt: