Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Dechrau'n Deg

Dechrau'n Deg yw rhaglen Blynyddoedd Cynnar blaenllaw Llywodraeth Cymru ar gyfer teuluoedd â phlant dan 4 oed, gyda'r nod o wella canlyniadau i'r rhai mewn ardaloedd a nodwyd ledled Powys. Mae'r rhaglen Dechrau'n Deg yn dechrau yn y cyfnod cynenedigol gydag ymweliadau dynodedig nes bod y plentyn yn dechrau yn yr ysgol.

Mae gan Dechrau'n Deg bedair elfen allweddol:

  • Cefnogaeth ychwanegol ymwelwyr iechyd
  • Gofal plant rhan amser o ansawdd i blant 2-3 oed yn rhad ac am ddim
  • Rhaglenni Cefnogi Rhianta
  • Datblygiad Iaith Cynnar a sgiliau chwarae

Mae’n cael ei chydnabod bod y blynyddoedd cynnar mewn plant yn gyfnod pwysig ac mae profiadau ar hyn o bryd yn effeithio'n fawr ar ddatblygiad plant yn y dyfodol.  Nod Dechrau'n Deg yw sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd ac yn darparu ystod o wasanaethau i gefnogi rhieni a phlant. Felly, mae Ymwelwyr Iechyd sy'n gweithio yn yr ardaloedd dynodedig yn gallu darparu gwasanaeth ymwelwyr iechyd mwy dwys a lefelau uwch o gymorth wrth i chi fagu eich plant. Bydd Ymwelwyr Iechyd yn cyflawni hyn drwy weithio mewn partneriaeth â theuluoedd i nodi angen a thrwy rymuso rhieni i wneud penderfyniadau da sy'n effeithio ar iechyd eu teulu yn y dyfodol.

Beth mae'r gwasanaeth hwn yn ei ddarparu?

Bydd yr Ymwelwyr Iechyd Dechrau'n Deg yn cynnig rhaglen graidd o ymweliadau iechyd i'r holl blant a theuluoedd sy'n byw yn yr ardaloedd dynodedig ym Mhowys.  Mae hyn yn golygu gweld eich Ymwelydd Iechyd Dechrau'n Deg ar adegau allweddol yn ystod blynyddoedd cynnar eich plentyn pan fydd yr Ymwelydd Iechyd Dechrau'n Deg yn gwirio bod popeth yn iawn gyda'ch plentyn chi a gallu cynnig unrhyw gyngor a chefnogaeth a fydd yn gwella potensial iechyd a datblygiad eich plentyn.

 Cysylltiadau Craidd Ymwelwyr Iechyd Dechrau'n Deg:

  • Ymweliad cartref cynenedigol
  • Ymweliad Geni Sylfaenol (10-14 diwrnod)
  • 3, 4 a 5 wythnos
  • Adolygiad 6 wythnos
  • 8 wythnos
  • 12 wythnos
  • 16 wythnos
  • 6 mis
  • 10 mis
  • 15 mis
  • 21 mis
  • 27 mis
  • 3 ½ oed

Fel rhan o dîm Dechrau'n Deg mae:

  • Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd
  • Gwasanaeth Nyrsio Meithrin Cymunedol
  • Tîm Therapi Iaith a Lleferydd
  • Gwasanaethau deieteg (atgyfeiriad gan Ymwelwyr Iechyd at BIAP)
  • Arbenigwyr Cymorth Bwydo ar y Fron

Yn ogystal â hyn, mae Ymwelwyr Iechyd Dechrau'n Deg hefyd yn cynnig ymweliad â’r cartref, cefnogaeth ac ymyriadau ychwanegol sydd wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion eich plentyn a'ch teulu.

Rydym hefyd yn gweithio gyda'r Ymwelwyr Iechyd Cyffredinol, Bydwragedd, Ymarferwyr Cyffredinol, Nyrsys Ymarfer, y Tîm Pediatreg Cymunedol, Therapyddion Iaith a Lleferydd, Nyrsys Ysgol a Gweithwyr Cymdeithasol.

Grwpiau:

O fewn ardaloedd Dechrau'n Deg, cynigir sawl grŵp gan gynnwys:

  • Tylino Babanod
  • Diddyfnu
  • Teithiau Cerdded Bygis
  • Rhaglen Solihull Cynenedigol gyda’r gwasanaeth mamolaeth
  • Dewch i Siarad Gyda’ch Babi!
  • GroBrain

Os oes gennych ganmoliaeth neu bryder am unrhyw agwedd ar y Gwasanaeth Dechrau'n Deg ym Mhowys, gallwch hefyd gysylltu â:

Emma Morgan

Arweinydd Tîm Ymwelwyr Iechyd Dechrau'n Deg
Canolfan Plant Aberhonddu
Ysbyty Coffa Rhyfel Aberhonddu
Heol Cerrigcochion
Aberhonddu
Powys
LD3 7NS

E-bost: emma.morgan2@wales.nhs.uk

Ffôn Symudol: 07754 452946

Rhannu:
Cyswllt: