Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth gyda Meddyliau am Hunanladdiad

Beth i’w gwneud os oes angen cymorth brys arnoch

 

Ydych chi'n meddwl am hunanladdiad?

 
Stopiwch
  • Peidiwch â gwneud unrhyw beth nawr, does dim rhaid i chi weithredu ar eich meddyliau hunanladdol.
  • Mae hunanladdiad yn derfynol – gall eich meddyliau, teimladau a phroblemau newid.
  • Efallai eich bod yn teimlo wedi llethu neu fel nad oes ffordd allan, ond pan rydyn yn cael trafferth ymdopi, mae ein hymennydd yn rhoi’r goruau ar ein sgiliau datrys problemau.
  • Ceisiwch gadw eich hun yn ddiogel am nawr a threuliwch ychydig o amser yn meddwl am y rhesymau dros aros yn fyw.

 

CEISIWCH GYMORTH
  • Siaradwch gyda rhywun; ffrind, aelod o’r teulu neu wasanaeth cymorth – gwelwch y rhestr isod – mae yna bobl sydd eisiau gwrando a helpu.
  • Ffoniwch 111 a phwyso 2 i siarad yn uniongyrchol â gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol.

  • Os ydych yn teimlo fel bod eich bywyd mewn perygl, ffoniwch 999 neu ewch i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys.

Ydych chi'n poeni am rywun arall?

 

  • Os ydych yn tybio bod gan rywun meddyliau am hunanladdiad, gofynnwch iddyn nhw- gall achub eu bywyd.
  • Ni fydd pawb sy’n meddwl am hunanladdiad yn dweud wrth rywun, ond efallai bod arwyddion rhybudd yno.
  • Dywedwch wrth yr unigolyn pam eich bod yn poeni amdanynt a’i bod yn iawn i siarad am hunanladdiad.
  • Gwrandewch ar beth sydd gan yr unigolyn i ddweud a chofiwch i drin yr hyn maent yn dweud yn ddifrifol ac yn dringar.
  • Ceisiwch beidio â barnu neu roi cyngor.
  • Trafodwch sut y gallant gadw’n ddiogel a lle i ddod o hyd i gymorth.

 

CEISIWCH GYMORTH

 

  • Anogwch nhw i ffonio 111 a phwyso 2 i siarad yn uniongyrchol â gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol.
  • Anogwch nhw i ddefnyddio un o’r gwasanaethau y cefnogir isod.
  • Os ydych yn teimlo fel bod eu bywyd mewn perygl, ffoniwch 999 neu ewch gyda’ch gilydd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwasanaethau Iechyd Meddwl
Menyw yn rhoi llaw ar fraich dyn yn cynnig cefnogaeth
Menyw yn rhoi llaw ar fraich dyn yn cynnig cefnogaeth
Gwybodaeth am wasanaethau iechyd meddwl i oedolion a phobl hŷn.
Eich Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) Lleol
Llaw yn dal gwên hapus gwyrdd torri papur
Llaw yn dal gwên hapus gwyrdd torri papur

Gwybodaeth am eich Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) Lleol ym Mhowys

Rhannu:
Cyswllt: