Neidio i'r prif gynnwy

Dweud eich dweud am eich Gwasanaethau Iechyd Meddwl lleol

Swigod lleferydd lliwgar gwag yn hongian o gortyn dros gefndir glas

Prosiect Eich Llais Chi

Prosiect Eich Llais Chi ydy’r fforwm sy’n edrych ar waith cymryd rhan a chynnwys uniongyrchol ar gyfer Defnyddwyr Gwasanaeth a Gofalwyr Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Os ydych chi’n frwd dros iechyd meddwl ac yr hoffech chi helpu i wneud gwahaniaeth i wasanaethau iechyd meddwl ym Mhowys, yna ‘Prosiect Eich Llais Chi’ ydy’r lle i chi.

Trwy gofrestru ar gyfer ‘Prosiect Eich Llais Chi’, fe fydd eich enw’n cael ei ychwanegu at restr bostio a byddwch chi’n derbyn y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am ddatblygiadau gwasanaethau iechyd meddwl ym Mhowys a chyfleoedd sydd ar ddod ichi gael eich cynnwys yn uniongyrchol mewn dylunio a chynllunio gwasanaeth y GIG.

Mae’r cyfleoedd hyn yn gallu amrywio o gymryd rhan mewn grwpiau ffocws, cymryd rhan mewn digwyddiadau cynllunio gwasanaeth, ymuno â phaneli cyfweld staff, cymryd rhan mewn arolygon a llawer mwy.

 

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno?

Y cyfan sydd angen ichi ei wneud ydy llenwi'r ffurflen gais ar-lein yma.

Neu gallwch chi anfon e-bost i powysmentalhealthLD@wales.nhs.uk

a bydd aelod o’r Tîm yn eich cofrestru a byddwch chi’n dechrau derbyn y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am wasanaethau iechyd meddwl BIAP a chyfleoedd i gymryd rhan.

Ddim yn defnyddio e-bost? Peidiwch â phoeni, gallwch chi ffonio ein Swyddog Cyfranogiad Partneriaeth Iechyd Meddwl, Penny, ar 07870 362 874.

 

Os y bydda’ i’n cofrestru, oes yn rhaid i mi wneud unrhyw beth?

Does yna ddim pwysau i gymryd rhan, ond cofiwch, pan fyddwn ni’n cynnig cyfleoedd ichi, byddwch chi’n cael eich cefnogi’n llawn ar hyd y ffordd! 

 

Eich Cynrychiolwyr Defnyddwyr a Gofalwyr Gwasanaethau Iechyd Meddwl Lleol

Rydyn ni’n hynod ffodus ym Mhowys i weithio ochr yn ochr â nifer o Gynrychiolwyr Defnyddwyr Gwasanaeth a Gofalwyr hynod weithgar ac ymgysylltiol, neu ‘reps’ fel y’u gelwir. Mae’r Cynrychiolwyr naill ai wedi defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl neu’n gofalu am rywun sydd wedi’u defnyddio. Mae’r gwirfoddolwyr di-dâl hyn yn gwasanaethu ar fyrddau partneriaeth rhanbarthol a chenedlaethol, ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol sydd a wnelo â darparu gwasanaethau.

Mae’r ‘reps’ yno i sicrhau bod llais defnyddwyr/ gofalwyr yn cael ei gynnwys wrth gynllunio gwasanaethau a’u bod bob amser wrth law i wrando ar eich profiadau a’ch problemau fel y gallan nhw fwydo hyn yn ôl i’r grwpiau partneriaeth. Gallwch chi gysylltu â’r cynrychiolwyr drwy e-bostio Owen Griffkin, Swyddog Cyfranogiad Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys owen.griffkin@pavo.org.uk neu ffonio 01597 822191. Os hoffech chi drafod dod yn gynrychiolydd eich hun, cysylltwch ag Owen i gael rhagor o wybodaeth.

Rhannu:
Cyswllt: