Mae’ch Gwasanaeth Seicoleg lleol yn darparu amrywiaeth o driniaethau therapiwtig gan gynnwys therapïau siarad, therapi gwybyddol ymddygiadol, therapi ailbrosesu dadsensiteiddio symudiad llygaid a llawer mwy. Mae’r Gwasanaeth Seicoleg wedi’i rannu’n ddau arbenigedd; y gwasanaeth i oedolion (ar gyfer pobl rhwng 18 a 65 oed) a’r gwasanaeth Pobl Hŷn (ar gyfer pobl 65 oed a hŷn). Gall y rheini sy’n 17 oed ac iau gael therapïau seicolegol drwy’r tîm CAMHS.
Mae gan ein Timau Seicoleg oriau gweithredu craidd o 9:00yb tan 5:00yp, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Dim ond trwy atgyfeiriad gan weithiwr proffesiynol ym maes iechyd y mae modd cael mynediad i wasanaethau seicoleg.
Pan fyddwch chi’n cael eich atgyfeirio i’r gwasanaeth Seicoleg, byddwch chi’n cael eich rhoi ar restr aros.
Pan fydd apwyntiad ar gael, byddwch chi’n cael gwybod a byddwch chi’n cael dyddiad ar gyfer eich sesiwn ragarweiniol yn gyntaf, ac asesiad gyda Seicolegydd neu Seicolegydd Cynorthwyol i bennu pa therapi fyddai fwyaf buddiol i chi.
Ar ôl eich asesiad, bydd eich Seicolegydd neu Seicolegydd Cynorthwyol yn cadarnhau’r cwrs therapi mwyaf priodol i chi ac yn cytuno ar amlder eich therapi.
Mae ein gwasanaeth Seicoleg wedi’i leoli mewn dau brif safle:
Seicoleg Gogledd Powys
Clinig Stryd y Parc
Y Drenewydd
Powys
SY16 1EG
Ffôn: 01686 617388
Seicoleg De Powys
Ward Erwyd
Ysbyty Bronllys
Powys
LD3 0LU
Ffôn: 01874 712 610