Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta Pob Oed

Mae anhwylder bwyta yn salwch meddwl difrifol sy'n cynnwys pryderon eithafol am fwyta, pwysau neu siâp y corff. Mae'r pryderon hyn yn arwain at feddyliau afluniedig a phatrymau afiach ynghylch ymddygiad bwyta. Nid ydynt yn ddewis ffordd o fyw nac yn "gyfnod arferol mewn bywyd" ac mae ganddynt y gyfradd marwolaethau uchaf o'r holl gyflyrau iechyd meddwl. Nid yw anhwylderau bwyta yn ymwneud â bwyd yn unig. Mae pobl ag anhwylderau bwyta yn aml yn teimlo llawer o boen, tristwch, cywilydd a phryder. Gall yr anhwylder bwyta fod yn ffordd o ymdopi ond mae risgiau tymor byr a thymor hir difrifol a gall fod yn ofidus iawn i'r unigolyn a'u hanwyliaid. Er hyn, mae yn bosibl gwella ac mae pobl yn gwella.

Nod y Gwasanaeth Arbenigol Anhwylder Bwyta Pob Oed yw cynnig gobaith a rhyddid rhag anhwylderau bwyta trwy ymyriadau, cyngor a chymorth ar sail tystiolaeth. Rydym yn dîm cyfeillgar sy’n datblygu o hyd ac yn gweithio gyda phobl rhwng 10 a 65 oed o fewn ardal Powys. Os yw'n briodol, rydym yn ymgysylltu ag unigolion a'u teuluoedd ac yn darparu ymyriadau ar gyfer pedwar prif gategori o anhwylderau bwyta: anorecsia nerfosa, bwlimia nerfosa, anhwylder gorfwyta mewn pyliau, ac "anhwylder bwydo neu fwyta penodedig arall" (Nid yw’r symptomau yn bodloni meini prawf ar gyfer anorecsia nerfosa, bwlimia nerfosa neu anhwylder gorfwyta mewn pyliau).

Mae croeso i chi gysylltu â ni am fwy o wybodaeth. Fodd bynnag, NAD yw ffôn ein swyddfa yn cael ei fonitro drwy gydol yr oriau swyddfa, o ddydd Llun i ddydd Gwener 09:00-17:00yh. Os oes angen cymorth brys/y tu allan i oriau gwaith arnoch, ffoniwch 111 a gwasgwch 2 am gymorth iechyd meddwl neu 999 mewn argyfwng.

Rydym awgrymu nad ydych yn cyfeirio'ch hun nac yn cyfeirio'ch anwyliaid atom yn uniongyrchol ac yn gyntaf ceisiwch apwyntiad, archwiliad corfforol ac yna atgyfeiriad atom trwy eich meddyg teulu. Sylwer bod pob atgyfeiriad unigolyn dan 18 oed yn cael eu hanfon ar hyn o bryd i dimau Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) lleol yn ogystal â ni.

 

Cysylltwch â Ni

Gwasanaeth Arbenigol Anhwylderau Bwyta

Ward Monnow

Ysbyty Bronllys

LD3 0LU

Rhif ffôn:

01874712512

E-bost: AllAgeEatingDisorder.ServicePowys@wales.nhs.uk

Ar ôl derbyn atgyfeiriad, yn dibynnu ar risgiau ac oedran, rydym yn trefnu galwad ffôn i gynnig sgriniad cychwynnol o fewn 7 diwrnod, os yw'n briodol, rydym yn cynnig asesiad Anhwylderau Bwyta llawn, a gynhelir naill ai gennym ni ein hunain neu ar y cyd â Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) / Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (CMHT).

Gallwch ddod â rhywun gyda chi i'r apwyntiad. Efallai y bydd y gweithiwr proffesiynol a welwch yn gofyn i’ch gweld ar eich pen eich hun am rywfaint o'r apwyntiad, a byddwn yn annog eich person cymorth i ailymuno â chi wrth drafod beth fydd y camau nesaf.

Rydym hefyd yn debygol o argymell monitro dilynol a monitro iechyd corfforol pellach gan eich meddyg teulu, yn dibynnu ar risgiau - efallai y byddwn yn argymell eich bod yn mynychu'ch adran damweiniau ac achosion brys agosaf.

Bydd y math o gymorth a gynigir yn amrywio yn dibynnu ar fath a difrifoldeb y pryder. Mae ein holl opsiynau cymorth uniongyrchol yn anelu at sicrhau bod pobl yn cyflawni eu nodau unigol eu hunain. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Therapi Gwybyddol Ymddygiadol Unigol Ar-lein
  • Ymyrraeth yn seiliedig ar deulu i anghenion ychwanegol
  • Hunangymorth Dan Arweiniad
  • Rheolaeth Glinigol Gefnogol Arbenigol
  • Atgyfeirio at wasanaeth dietegol
  • Atgyfeirio at seicoleg
  • Atgyfeirio at Wasanaeth Byw’n Dda Powys

Er mwyn sicrhau ein bod i gyd yn gweithio'n ddiogel ac yn effeithiol gyda'n gilydd rydym yn rhannu gwybodaeth ac yn gweithio ar y cyd â gwasanaethau BIAP. Rydym hefyd yn cysylltu â meysydd addysg, gofal cymdeithasol, yn ogystal â gwasanaethau y tu allan i'r ardal i bobl dan ein gofal. Rydym wedi'n lleoli yn Ysbyty Bronllys ac yn cynnig clinigau allgymorth CAMHS, CMHTS, cleifion allanol Bronllys ac yn dibynnu ar argaeledd staff, gallwn gynnig asesiadau ac apwyntiadau rhithwir ac wyneb yn wyneb.

Drwy gydol yr asesiad a'r driniaeth, bydd ein cleientiaid (a'u teuluoedd) yn cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau ynghylch gofal, gan sicrhau hawliau sylfaenol ar gyfer preifatrwydd, cyfrinachedd, urddas a pharch.

Myth: Mae anhwylderau bwyta yn ddewis

Ffaith: Mae anhwylderau bwyta yn salwch cymhleth - does dim un achos unigol. Yn hytrach, credir eu bod yn cael eu hachosi gan gyfuniad o ffactorau biolegol, seicolegol a chymdeithasol-ddiwylliannol. Mae anhwylderau bwyta yn anhwylderau iechyd meddwl ac nid ydynt byth yn ddewis personol.

 

Myth: Rhieni sydd ar fai am anhwylder bwyta eu hanwyliaid

Ffaith: Yn aml nid oes unrhyw beth y gallai rhiant neu ofalwr arall fod wedi'i wneud i atal yr anhwylder bwyta, ond yn aml maent yn y sefyllfa orau i helpu creu amgylchedd sy'n hyrwyddo ac yn cefnogi adferiad. Er y gall triniaeth olygu bod teuluoedd yn newid ymddygiad penodol, oherwydd gall teuluoedd fod wedi disgyn yn anfwriadol i arferion sy'n bodloni'r ymddygiadau sydd wedi deillio o'r anhwylder bwyta, yn hytrach na bod ar fai.

Mae'n hanfodol bod rhieni a gofalwyr yn cael cymorth yn ystod y cyfnod tra bod eu hanwyliaid yn sâl oherwydd natur heriol cefnogi rhywun ag anhwylder bwyta.

 

Myth: Mae anhwylderau bwyta yn ffordd i unigolyn fod yn ofer ac i geisio sylw

Ffaith: Er bod cysylltiad yn aml rhwng anfodlonrwydd â’r corff ac anhwylderau bwyta, nid yw anhwylderau bwyta yn unigolyn sy’n ofer neu ddim ond eisiau edrych mewn ffordd benodol. Mae anhwylderau bwyta yn salwch difrifol y gellir cael diagnosis; nid ydynt yn ddewis ffordd o fyw, yn gam bywyd, nac yn rhywun sy'n chwilio am sylw.

Yn aml mae pobl sy'n cael diagnosis o anhwylderau bwyta yn mynd i drafferth fawr i guddio'r anhwylder bwyta a'i gadw'n gyfrinachol.

 

Myth: Rhaid i rywun fod dan bwysau i gael anhwylder bwyta

Ffaith: Yn aml pan fydd pobl yn meddwl am rywun ag anhwylder bwyta, maen nhw'n meddwl am rywun sydd dan bwysau. Fodd bynnag, er bod colli pwysau yn nodweddiadol mewn anorecsia nerfosa, mae'r rhan fwyaf o bobl ag anhwylder bwyta yn aros ar bwysau sy'n ymddangos yn "iach" neu "dros bwysau".

Os oes angen i'r person rhoi pwysau ymlaen, dim ond un agwedd ar driniaeth yw hon, ac nid yw rhoi pwysau ymlaen yn golygu bod yr unigolyn wedi adfer. Mae angen mynd i'r afael â'r meddyliau a'r ymddygiadau sy'n dod ochr yn ochr â'r anhwylder bwyta hefyd.

 

Myth: Mae anhwylderau bwyta yn digwydd i ferched ifanc yn unig

Ffaith: Mae ymchwil yn dangos nad yw anhwylderau bwyta yn gwahaniaethu - maen nhw'n effeithio ar bobl o bob rhyw, oedran, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, pwysau, a statws economaidd-gymdeithasol.

Gall anhwylderau bwyta fod yn fygythiad i fywyd a gallant amharu ar fyw bywyd yn dda. Mae ganddynt risgiau iechyd corfforol a meddyliol sylweddol a gallant arwain at farwolaeth gynamserol.

Mae anhwylderau bwyta yn afiechydon sy'n bachu cyfle, a gallant ymddangos fel ateb i'ch problemau i ddechrau. Fodd bynnag, mae hyn nid yn unig yn dod ar gost uchel iawn i'ch iechyd, cyfleoedd bywyd a pherthnasoedd. Mae anhwylderau bwyta yn ffynnu ar gywilyddio ac ynysu eu dioddefwyr gan wneud iddynt deimlo'n sownd a chael eu stigmateiddio i feddwl bod bai arnyn nhw am eu trafferthion.

Mae torri'n rhydd yn bosibl hyd yn oed pan fyddwch chi'n poeni am newidiadau i bwysau a bwyta.

Meddyliwch sut y gallai'r rhyddid o anhwylder bwyta edrych i chi a’r manteision i chi. Nid yw byth yn rhy gynnar nac yn rhy hwyr i ofyn am help, mae ar gael unwaith y byddwch chi’n barod. 

Gweler rhagor o gyngor a chymorth drwy'r dolenni isod:

 

Freed For All

Cymorth a chefnogaeth anhwylderau bwyta i bobl ifanc a gofalwyr | FREED (freedfromed.co.uk)

Gwybodaeth am anhwylderau bwyta yn ogystal â chanllawiau ar gyfryngau cymdeithasol ac apiau, iechyd esgyrn, anhwylderau ymennydd a bwyta, paratoi ar gyfer y brifysgol neu deithio ynghyd â digon o straeon ysbrydoledig. Mae hefyd podlediadau ar gael am ddim o’r enw "Full of Beans" y gallwch wrando arnynt.

F.E.A.S.T

Hafan -  FEAST

Cymuned cymorth ac addysg fyd-eang ar gyfer rhieni pobl ag anhwylderau bwyta. O werth arbennig yw eu rhaglen 'First 30 days', sy'n ceisio trawsnewid rhieni a’u grymuso o fewn 30 diwrnod.

Beat

Elusen Anhwylderau Bwyta'r DU - Beat

Mae llinell gymorth genedlaethol Beat yn bodoli i annog a grymuso pobl i gael help yn gyflym. Gall pobl gysylltu â Beat ar-lein neu dros y ffôn 365 diwrnod y flwyddyn. Mae nhw yno i wrando, eu helpu i ddeall y salwch, a’u cefnogi i gymryd camau cadarnhaol tuag at adferiad. Maent hefyd yn cefnogi teulu a ffrindiau, gan roi’r sgiliau a chyngor hanfodol iddyn nhw helpu eu hanwyliaid i wella tra hefyd yn gofalu am eu hiechyd meddwl eu hunain.

Ymwybyddiaeth ARFID y DU

Ymwybyddiaeth ARFID y DU

Nhw yw'r unig elusen gofrestredig yn y DU sy'n ymroddedig i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo gwybodaeth am Anhwylder Bwyta Osgoi/Cyfyngol. Fel sefydliad nid-er-elw, rydym yn gweithio i ddarparu unigolion, rhieni, gofalwyr a gweithwyr meddygol proffesiynol gyda'r wybodaeth, yr ymchwil a'r cymorth diweddaraf perthnasol.

Eva Musby: Helping You Free Your Child of an Eating Disorder

Anorecsia ac anhwylderau bwyta eraill: sut i helpu eich plentyn i fwyta'n dda a bod yn iach. Llyfr, fideos, hyfforddiant/cwnsela.

Mae'r cyngor ymarferol yma yn cael ei gasglu gan rieni a therapyddion ar draws y byd ac o brofiad personol Eva. Mae'n defnyddio gwybodaeth o'r ymchwilwyr gorau yn y maes. Mae gan Eva hefyd daflenni cymorth a fideos am ddim.

Canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol  

Trosolwg | Anhwylderau bwyta: adnabod a thrin | Canllawiau | NICE

Mae'r canllaw hwn gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Gofal Rhagorol yn cynnwys asesu, triniaeth, monitro a gofal cleifion mewnol ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion ag anhwylderau bwyta. Ei nod yw gwella'r gofal y mae pobl yn ei dderbyn trwy fanylu ar y driniaeth fwyaf effeithiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer anorecsia nerfosa, anhwylder gorfwyta mewn pyliau a bwlimia nerfosa.

Overcoming Binge Eating, Second Edition: The Proven Program to Learn Why You Binge and How You Can Stop (Christopher Fairburn, 2013) Ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion â bwlimia neu anhwylder gorfwyta mewn pyliau) Mae'r llyfr hwn yn rhannu gwybodaeth i ddeall gorfwyta mewn pyliau a'i reoli, p'un a ydych chi'n gweithio gyda therapydd neu ar eich pen eich hun. Mae canllawiau clir, cam wrth gam yn dangos i chi sut i: Oresgyn yr awydd i fwyta mewn pyliau, cael rheolaeth dros beth a phryd rydych chi'n ei fwyta, torri’n rhydd o ddeiet llym ac arferion eraill a allai gyfrannu at byliau o fwyta, sefydlu patrymau bwyta sefydlog a iach er mwyn gwella delwedd eich corff a lleihau'r risg o gael ail bwl o salwch.

Beating Your Eating Disorder: A Cognitive-Behavioral Self-Help Guide for Adult Sufferers and their Carers (Glenn Waller, Victoria Mountford, Rachel Lawson, Emma Gray, Helen Cordery, Hendrik Hinrichsen, 2010).

Getting Better Bite by Bite: A Survival Kit for Sufferers of Bulimia Nervosa and Binge Eating Disorders (Ulrike Schmidt, Janet Treasure and June Alexander, 2015).

Overcoming Binge Eating, Second Edition: The Proven Program to Learn Why You Binge and How You Can Stop (Christopher Fairburn, 2013).

Rhannu:
Cyswllt: