Llinell Gymorth Argyfwng Young Minds
Mae Young Minds yn darparu cymorth dros neges destun 24/7 am ddim i bobl ifanc ledled y DU sy'n profi argyfwng iechyd meddwl. Caiff pob neges ei hateb gan wirfoddolwyr hyfforddedig, gyda chymorth goruchwylwyr clinigol profiadol.
Tecstiwch: YM i 85258
(Sylwer, dim ond yn Saesneg y mae'r adnodd hwn ar gael ar hyn o bryd.)
Y Samariad
Beth bynnag rydych chi'n mynd drwyddo, gallwch ffonio'r Samariaid unrhyw bryd, o unrhyw ffôn am ddim.
Rhif ffôn: 116 123
The Mix
Ni waeth os ydych yn 13, 25 oed, neu unrhyw oedran yn y canol, mae The Mix yno i ymgymryd â'r problemau annifyr, cwestiynau rhyfedd, a meddyliau nad ydych am ddweud yn uchel. Mae'r Mix yn rhoi'r wybodaeth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch i ddelio â'r cyfan.
Gall The Mix eich cysylltu ag arbenigwyr a'ch cyfoedion a fydd yn rhoi'r cymorth a'r offer sydd eu hangen arnoch i ymgymryd ag unrhyw her rydych yn ei hwynebu – ar gyfer popeth o ddigartrefedd i chwilio am swydd, o arian i iechyd meddwl, o berthnasoedd yn chwalu i gyffuriau.
Mae'r Mix yn wasanaeth aml-sianel am ddim a chyfrinachol. Mae hynny'n golygu eich bod yn dewis sut yr ydych yn cael gafael ar eu cefnogaeth, heb boeni unrhyw un arall. Boed hynny drwy eu herthyglau a'u cynnwys fideo ar-lein neu dros y ffôn, e-bost, cwnsela gan gyfoedion a gwasanaethau cwnsela – chi sydd mewn rheolaeth
Rhif ffôn: 0808 808 4994
Gwefan: The Mix - Essential support for under 25s
(Sylwer, dim ond yn Saesneg y mae'r adnodd hwn ar gael ar hyn o bryd. Os yw eich gosodiadau yn y Gymraeg, dylai eich porwr gynnig cyfieithu'r wefan hon i chi o'r Saesneg i'r Gymraeg)
Childline
Os ydych o dan 19 oed gallwch ffonio, sgwrsio ar-lein neu e-bostio'n gyfrinachol am unrhyw broblem fawr neu fach.
Cofrestrwch ar gyfer locer Childline am ddim (nid oes angen enw go iawn neu gyfeiriad e-bost) i ddefnyddio eu gwasanaeth sgwrsio a chymorth e-bost 1 un 1 am ddim: https://www.childline.org.uk/get-support/contacting-childline/contacting-childline-in-welsh/
Gall Childline ddarparu cyfieithydd BSL os ydych yn fyddar neu â nam ar eich clyw.
Rhif ffôn: 0800 1111
Oriau agor: 9yb – canol nos, 365 diwrnod y flwyddyn