Neidio i'r prif gynnwy

Endometriosis

Beth yw endometriosis? Mae’n gyflwr lle mae meinwe yn debyg i leinin y groth yn cael ei ddarganfod yn y pelfis, o amgylch y groth a’r tiwbiau ffalopaidd. Gall effeithio 1 i bob 10 menyw a gall fod yn etifeddol. Gall fod yn gyflwr hir dymor sydd fel arfer yn effeithio menywod yn ystod y blynyddoedd pan allant feichiogi Nid oes achos hysbys ond mae'n ddibynnol ar hormonau, sy'n golygu y gallai symptomau fod yn waeth tuag adeg y mislif.

Symptomau - mae hyn yn cynnwys poen yn y pelfis a mislif poenus ac afreolaidd. Gall achosi poen yn ystod rhyw a gall arwain at broblemau ffrwythlondeb. Mae rhai menywod yn cael poen yn gysylltiedig â’r coluddyn neu’r bledren, poen yn y coesau ac yn rhan isaf y cefn, tra bod eraill efallai ddim yn profi unrhyw symptomau. 

Atgyfeirio - Os bydd unrhyw symptomau'n dechrau, dylech gysylltu â’ch Meddyg Teulu neu Nyrs Practis yn syth. Byddant yn cofnodi hanes o’ch symptomau, gyda’ch caniatâd. Mae’n bosibl y byddant yn gwneud archwiliad o’ch pelfis, yn trefnu sgan uwchsain trawsweiniol (TVUSS) a’ch atgyfeirio i gynaecoleg cyffredinol.  

Diagnosis - Mae’n bosibl bydd sgan uwchsain trawsweiniol (TVUSS) yn canfod endometriosis, os felly gellir trafod triniaeth briodol naill ai gyda'ch meddyg teulu neu gynaecolegydd. Os yw'r TVUSS yn profi'n amhendant a bod y symptomau'n parhau, efallai y byddwch yn cael eich cyfeirio at driniaeth gynecolegol, o'r enw laparosgopi, fel achos dydd. Mewn rhai achosion, gall hwn ddigwydd mewn Ysbyty ym Mhowys. Os nad yw’n bosibl, efallai y cewch eich cyfeirio at Fwrdd Iechyd arall am yr un driniaeth. 

Triniaeth - Gall hyn fod yn feddyginiaeth lleddfu poen, ffisiotherapi ac mewn rhai achosion mae atgyfeiriad at arbenigwyr yn y maes rheoli poen yn addas.  Gall gynnig triniaeth hormon ac, mewn rhai achosion, bydd angen llawdriniaeth i gael gwared ar yr afiechyd endometriosis. 

Cymorth a gwaith dilynol - Mae hyn yn cael ei gynnig gan Nyrsys Clinigol Arbenigol Endometriosis/Iechyd Menywod ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys a chlinigau gynaecoleg, Ffisiotherapyddion Iechyd Menywod, Arbenigwyr Nyrsio Ymataliaeth, trwy Feddygon Teulu a Nyrsys Practis.  Gallwch gysylltu â’r Nyrsys Clinigol Arbenigol Endometriosis/Iechyd Menywod trwy e-bostio endometriosis.powys@wales.nhs.uk      

 

Am fwy o wybodaeth a chymorth, ewch i Endometriosis UK: http://www.endometriosis-uk.org

Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) - Endometriosis: Diagnosis a Rheoli: http://www.nice.org.uk/guidance/ng73

Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr (RCOG): https://www.rcog.org.uk/en/patients/patient-leaflets/endometriosis/

Dewisiadau’r GIG: http://www.nhs.uk/conditions/Endometriosis/Pages/Introduction.aspx

Fertility Network UK: http://fertilitynetworkuk.org/uk

 

Rhannu:
Cyswllt: