Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd y Mislif

Beth yw’r mislif?

Mae’r mislif yn rhan o’r cylch mislif lle mae menyw yn gwaedu o’i chroth, trwy ei gwain am ychydig o ddyddiau.  I ferched, mae’n arwydd ei bod yn cyrraedd diwedd cyfnod y glasoed. Mae pawb yn wahanol ond fel arfer mae hyn yn digwydd tua 12 blwydd oed, ond gall ddigwydd unrhyw bryd rhwng 10 a 15 mlwydd oed.

Os yw merch yn cael rhyw, gallai gwympo’n feichiog cyn gynted ag y bydd ei mislif yn dechrau.

 

Pam mae’r mislif yn digwydd?

Mae’r mislif yn digwydd o achos newidiadau hormonaidd sy’n achosi i leinin y groth cronni er mwy galluogi wy wedi’i ffrwythloni i lynu a datblygu mewn i fabi.  Os nad yw’r wy edi’i ffrwythloni, mae’r leinin yn dadelfennu ac yn achosi gwaedu - y mislif.

Pa mor aml mae menyw yn cael y mislif?

Fel arfer, mae’r mislif yn digwydd unwaith y mis, ond yn y blynyddoedd cynnar, gallant fod yn afreolaidd ond dylent fynd yn fwy rheolaidd o fewn 2-3 blynedd. Mae’r gwaedu yn para tua 5 diwrnod ond gall hyn fod yn fyrrach neu’n hirach ar gyfer rhai merched a menywod.

Nid yw’r mislif yn digwydd yn ystod beichiogrwydd ac yn stopio pan fydd menyw yn dod yn cychwyn menopos, rhwng 45 a 55 oed.

Mislif poenus

Mae rhai merched a menywod yn profi mislif poenus a/neu'n profi tensiwn cyn mislif, lle maen nhw’n profi symptomau emosiynol a chorfforol tuag adeg eu mislif. Dim ond ychydig ddyddiau y gall y symptomau hyn bara a gallent gynnwys hwyliau isel, tristwch, gorbryder, teimlo'n chwyddedig, crampiau ac acne.   

Faint o waed a pha broblemau i gadw llygad amdanynt?

Fel arfer, dim ond tua llwy de o waed byddwch yn colli dros gyfnod cyfan y mislif. Mae rhai merched a menywod yn colli mwy sy’n gallu peri problemau. Os oes rhaid newid pad neu dampon o fewn awr, nad yw meddyginiaeth lleddfu poen yn helpu gyda’r crampiau, yn para am dros wythnos, yn gwaedu rhwng y mislifoedd neu nad ydynt yn cysoni ar ôl 2 flynedd o gychwyn, mae’n syniad da ymweld â Meddyg Teulu.

Pa gynhyrchion i'w defnyddio?

Mae padiau, tamponau neu gwpanau mislif ar fael ac mae dod o hyd i gynnyrch sy’n addas yn rhan o ddeall y mislif.

Mae'r rhan fwyaf o ferched yn defnyddio padiau pan fyddant yn dechrau cael y mislif am y tro cyntaf.

Mae rhai merched a menywod yn defnyddio tamponau gan eu bod yn fwy cyfleus na phadiau ar gyfer chwaraeon, ymarfer corff a tra’u bod yn yr ysgol neu'r gwaith.

Mae rhai menywod yn defnyddio cwpan silicôn bach sy'n cael ei roi yn y wain i gasglu gwaed. Dyma gwpan mislif ac mae'n aros y tu mewn i'r wain nes iddo gael ei dynnu a'i wagio.

Cefnogaeth a mwy o wybodaeth

Lle y gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma: https://www.nhs.uk/conditions/periods/

Mae Bloody Brilliant, Mislif Fi yn adnodd a chafodd ei greu gan Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod ar gyfer merched ifanc er mwyn eu helpu i ddeall ac i chwalu’r tabŵ dros y mislif.

https://bloodybrilliant.wales/

Rhannu:
Cyswllt: