Neidio i'r prif gynnwy

Menopos

Beth yw menopos? Mae'r menopos yn digwydd pan fydd wyau'n rhoi'r gorau i gael eu rhyddhau o'ch ofarïau neu os caiff ofarïau eu tynnu. Mae nifer yr oestrogen yn cwympo ac mae’r mislif yn stopio. Yr oedran cyfartalog i fenywod gael eu menopos yw 51 oed. Fodd bynnag, gall y menopos gychwyn yn gynharach i rai menywod. 

Symptomau - pwl o wres, chwysu yn y nos, syched y wain, hwyliau isel a gorbryder, poenau yn y cymalau a’r cyhyrau, colli libido. Bydd symptomau'n amrywio i'r rhan fwyaf o fenywod a gall rhai bod yn ddifrifol tra efallai na fydd eraill yn profi unrhyw symptomau.

Diagnosis - Fel arfer, y gwneir diagnosis yn seiliedig ar symptomau, ar absenoldeb y mislif am flwyddyn ar ôl 50 oed neu ddwy o dan 50 oed. Mae’n bosibl bydd eich Meddyg Teulu neu nyrs yn gofyn am brawf gwaed i brofi lefelau hormonau, ond gan fod lefelau hormon yn newid mor aml, awgrymir i fenywod dan 45 oed. 

Triniaeth - Newidiadau i’r ffordd o fyw, megis gall ymarfer corff a newidiadau i’r deiet leddfu symptomau. Yn ogystal â lleihau’ch nifer o alcohol a chaffein, a rhoi'r gorau i smygu.

Mae rhai menywod yn gweld bod triniaeth amgen, nad yw’n cael ei rhagnodi,  yn helpu i leddfu symptomau. Gall hyn cynnwys meddyginiaeth lysieuol, therapi amgen neu gyflenwol - er nad yw effeithiau'r triniaethau hyn yn wedi cael eu hymchwilio na'u hadnabod yn dda.

Ar adegau, mae therapi gwybyddol ymddygiadol yn cael ei gynnig ar gyfer hwyliau isel neu os ydych mewn pwl o wres.

Ymhlith yr opsiynau ar gyfer triniaeth wedi’i ragnodi mae meddyginiaeth heb hormonau i leihau’r teimlad poeth, dyfeisiau ymwthiol sy'n cynnwys hormonau a/neu HRT, sef y math mwyaf cyffredin o driniaeth ragnodedig ar gyfer symptomau mislif.   

Cymorth a gwaith dilynol - Mae hyn yn cael ei gynnig gan Feddygon Teulu, Nyrsys Practis, Gynaecolegwyr, Nyrsys Clinigol Arbenigol Endometriosis/Iechyd Menywod ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys, Tîm Iechyd Rhywiol, Ffisiotherapyddion Iechyd Menywod, Arbenigwyr Nyrsio Ymataliaeth.

Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr (RCOG) https://www.rcog.org.uk/en/patients/patient-leaflets/treatment-symptoms-menopause/

Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) https://www.nice.org.uk/guidance/NG23

British Menopause Society (BMS)  https://thebms.org.uk/

Menopause Matters  https://www.menopausematters.co.uk/downloads.php

Rhannu:
Cyswllt: