Neidio i'r prif gynnwy

Menopos

Beth yw’r menopos? Mae'r menopos yn digwydd pan fydd wyau'n peidio â chael eu rhyddhau o'ch ofarïau neu os caiff ofarïau eu tynnu allan. Mae lefel yr hormon oestrogen yn gostwng ac mae’r mislif yn stopio. Yr oedran cyfartalog i fenywod gael eu menopos yw 51 oed. Fodd bynnag, gall y menopos ddechrau'n gynharach i rai menywod. 

Symptomau – pyliau o wres, chwysu yn y nos, sychder y wain, hwyliau isel a gorbryder, poenau yn y cymalau a'r cyhyrau, colli libido. Bydd symptomau'n amrywio i'r rhan fwyaf o fenywod a gall rhai fod yn ddifrifol tra efallai na fydd eraill yn profi unrhyw symptomau.

Diagnosis – Fel arfer, gwneir diagnosis yn seiliedig ar symptomau, ar absenoldeb mislif am flwyddyn ar ôl 50 oed neu ddwy flynedd dan 50 oed. Mae’n bosibl bydd eich Meddyg Teulu neu nyrs yn gofyn am brawf gwaed i brofi lefelau hormonau, ond gan fod lefelau hormon yn newid mor aml, fel arfer caiff ei awgrymu i fenywod dan 45 oed yn unig. 

Triniaeth – Gall newidiadau i ffordd o fyw, fel ymarfer corff a newidiadau i’r deiet, helpu symptomau. Gall lleihau alcohol a chaffein a rhoi'r gorau i ysmygu hefyd helpu.

Mae rhai menywod yn gweld bod triniaeth heb bresgripsiwn yn helpu lleddfu’r symptomau. Gall hyn gynnwys meddyginiaeth lysieuol, therapi amgen neu gyflenwol – er nad yw effeithiau’r triniaethau hyn wedi’u hymchwilio’n dda nac yn hysbys.

Ar adegau, mae therapi gwybyddol ymddygiadol yn cael ei gynnig ar gyfer hwyliau isel neu ar gyfer pyliau o wres.

Mae'r opsiynau ar gyfer triniaeth ar bresgripsiwn yn cynnwys meddyginiaeth heb hormonau i leihau pyliau o wres, dyfeisiau mewngroth sy'n cynnwys hormonau a/neu HRT sef y math mwyaf cyffredin o driniaeth ar bresgripsiwn ar gyfer symptomau'r menopos.   

Cymorth a chamau dilynol - Mae hyn yn cael ei gynnig gan Feddygon Teulu, Nyrsys Practis, Gynaecolegwyr, Nyrsys Clinigol Arbenigol Endometriosis/Iechyd Menywod ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys, Tîm Iechyd Rhywiol, Ffisiotherapyddion Iechyd Menywod, Nyrsys Arbenigol Ymataliaeth.

Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr (RCOG) https://www.rcog.org.uk/en/patients/patient-leaflets/treatment-symptoms-menopause/

Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) https://www.nice.org.uk/guidance/NG23

Cymdeithas Menopos Prydain (BMS) https://thebms.org.uk/

Menopause Matters  https://www.menopausematters.co.uk/downloads.php

 

 

Rhannu:
Cyswllt: