Gall colli babi neu efaill oherwydd camesgoriad, gwneud y penderfyniad poenus i ddod â'r beichiogrwydd i ben, babi marw-anedig, neu babi sy’n byw am gyfnod byr yn unig, fod yn ddinistriol. Mae marwolaeth baban yn fath arbennig o alar, ac nid yw dwyster y cariad y mae rhieni'n ei deimlo dros eu babi yn cael ei fesur yn ôl pa mor hir y bu'r baban yn fyw, ond yn y buddsoddiad emosiynol sydd ganddyn nhw yn eu plentyn.
I rieni a'r teulu ehangach, gall disgwyl croesawu bywyd newydd, ond yn hytrach wynebu'r realiti nad yw eu babi wedi byw, fod yn hynod o anodd a gall ceisio dod o hyd i atebion ynghylch pam y mae wedi digwydd deimlo'n bwysig iawn. Gall hyn fod yn rhywbeth y gall staff meddygol ei ddweud wrthych, ond weithiau nid oes ateb clir, a all fod yn anodd iawn delio ag ef ac os ydych wedi rhoi genedigaeth i'ch babi, efallai y byddwch yn dal i brofi'r holl adweithiau ôl-enedigol corfforol arferol ond heb eich babi, a all fod yn atgof dinistriol o'ch colled.