Ychydig iawn o rieni sy'n disgwyl bod yn cynllunio angladd ar gyfer eu plentyn. Er bod trefnu angladd yn gallu bod yn boenus ac yn ofidus, mae'n gam pwysig wrth ffarwelio. Gall fod yn ddefnyddiol cymryd ychydig ddyddiau i benderfynu beth sy'n iawn i chi fel teulu, oherwydd efallai nad eich ymateb cyntaf fydd eich dewis olaf. Gallwch ddewis cael claddedigaeth neu amlosgiad, gwasanaeth crefyddol neu anghrefyddol, mewn eglwys, ar lan y bedd, yn eich cartref neu unrhyw le arall sy'n briodol. Nid oes disgwyliad ar weinidog crefyddol i gymryd rhan ac yn wir nid oes unrhyw rwymedigaeth i gael gwasanaeth angladdol o gwbl. Gallwch greu rhywbeth sy'n ystyrlon i chi ac sy'n mynegi eich gobeithion a'ch breuddwydion ar gyfer eich babi neu'n dal natur eich plentyn sydd wedi marw.
Pan fydd babi yn marw yn yr ysbyty, gall yr ysbyty wneud y trefniadau i chi os ydych yn teimlo na allwch wneud hyn eich hun. Mae'n ddefnyddiol darganfod pa fath o angladd y byddai'r ysbyty yn ei ddarparu.