Mae’n bwysig i feddwl yn gynnar am sut y byddwch chi’n cyrraedd ac yn mynd adref o’ch apwyntiad ysbyty. I’ch helpu chi drefnu eich taith, dyma rai opsiynau ar sut i gyrraedd ein hysbytai:
Mae Traveline Cymru yn wasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r gwasanaeth yn rhoi gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ar draws Cymru yn ymwneud â llwybrau bws, coets a thrên, yn ogystal â llwybrau cerdded a beicio.
Mae’n werth cofio bod bysys lleol yn hygyrch i gadeiriau olwyn a bygis ac mae lleoedd dynodedig ar y bysys ar gyfer teithwyr mewn cadeiriau olwyn.
Y pwrpas yw cynnig man ‘un-stop’ ar gyfer gwybodaeth am deithio, lle gallwch ddod o hyd i holl wybodaeth am eich taith mewn un lle, mewn ychydig gamau syml.
Gallwch ffonio’r Ganolfan Gyswllt ddwyieithog ar y rhif rhadffôn 0800 464 0000 gydag unrhyw ymholiadau yn ymwneud â threfnu eich taith. Mae’r ganolfan gyswllt ar gael rhwng 7yb - 8yh bob dydd, trwy gydol y flwyddyn.
Cliciwch yma i weld gwefan Traveline Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Mae gan y wefan hon gynlluniwr taith i’ch helpu chi ddod o hyd i’r llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus sydd orau i chi. Unwaith i chi orffen chwilio, byddwch yn gallu gweld yr holl opsiynau teithio sydd ar gael, yn ogystal â’r wybodaeth fydd ei hangen arnoch i wneud y daith honno, i gyd ar un dudalen, gan gynnwys:
I ddod o hyd i wybodaeth yn ymwneud ag amserlenni, rhowch rif eich bws i mewn i’r blwch chwilio, neu fel arall rhowch eich lleoliad i mewn i weld pa wasanaethau bws sy’n rhedeg yn yr ardal honno. Yna byddwch yn gallu gweld yr amserlen lawn ar gyfer y gwasanaethau hyn, gyda'r opsiwn o lawrlwytho ac argraffu'r amserlenni hyn i'w cadw.
Mae'r Map Teithio yn caniatáu ichi weld pob safle bws, gorsafoedd trên, parcio a theithio a gorsafoedd Nextbike yn eich lleoliad chwilio. Yna gallwch ddewis unrhyw un o'r eiconau teithio a ddangosir ar y map i ddarganfod mwy o wybodaeth.
Mae Traveline yn cynnig ap symudol dwyieithog am ddim, a fydd yn caniatáu ichi gynllunio'ch taith, yn ogystal â dod o hyd i amserlenni a safleoedd bysys ar eich taith. Mae'r ap ar gael ar ddyfeisiau iPhone ac Android ar hyn o bryd.
Mae Traveline hefyd yn cynnig gwasanaeth tecst, a fydd yn anfon gwybodaeth am amseroedd eich bws nesaf yn uniongyrchol i'ch ffôn symudol.