Pan fydd eich triniaeth ysbyty wedi dod i ben, gartref yw'r lle gorau i wella. Dyma'r dull gweithredu gartref yn gyntaf.
Mae gartref yn gyntaf yn eich helpu chi i gynnal eich annibyniaeth cymaint â phosibl wrth ichi wella o salwch neu anaf gartref ar ôl arhosiad yn yr ysbyty.
Mae gartref yn gyntaf hefyd yn golygu y caiff asesiadau gofal parhaus eu cynnal gartref, gan mai dyma'r lle gorau i ddeall eich anghenion gofal a chymorth tymor hir.
Gallai "gartref" fod mewn cartref gofal, eich cartref eich hun neu gartref ffrind neu aelod o'r teulu.
Gall aros yn yr ysbyty pan fyddwch chi'n ddigon iach i fynd adref arwain at ddatgyflyru. Gall hyn olygu eich bod yn colli'r gallu i wneud tasgau dyddiol. Yn aml, caiff ei achosi gan anweithgarwch a chyfnodau estynedig o amser yn y gwely.
Gall datgyflyru arwain at y canlynol:
Gall aros yn yr ysbyty am gyfnod hirach nag sydd ei angen arnoch chi hefyd gynyddu'ch risg o ddal heintiau newydd.
Gallai'r risgiau hyn olygu y bydd angen mwy o ofal a chymorth arnoch chi pan ddaw'r adeg ichi fynd adref. Drwy wella gartref, mae'r risgiau hyn yn cael eu lleihau. Gall bod gartref eich helpu chi i ddychwelyd i'ch trefn arferol, gan eich helpu i gryfhau'n gyflymach.
Mae cynllunio ar gyfer eich rhyddhau yn dechrau cyn gynted ag y cewch eich derbyn i'r ysbyty. Y nod yw eich rhyddhau unwaith y bydd eich anghenion meddygol neu ofal yn gallu cael eu diwallu gartref neu yn y gymuned.
Bydd tîm y ward yn gweithio gyda chi ac yn rhoi gwybod ichi pan fyddwch chi'n barod i adael yr ysbyty. Gall tîm y ward gynnwys:
Bydd eich cynllun rhyddhau yn cynnwys unrhyw gymorth ar unwaith y bydd ei angen arnoch chi i fynd adref. Bydd eich asesiadau gofal neu gymorth tymor hir yn cael eu cynnal gartref, unwaith y byddwch chi wedi cael cyfle i wella ymhellach.
Peidiwch â bod ofn gofyn i staff am y cynllun i'ch rhyddhau. Byddan nhw'n sicrhau bod unrhyw ofal sydd ei angen arnoch chi yn ei le erbyn ichi fynd adref. Nod y cynllun rhyddhau yw eich helpu chi i wella a'ch helpu chi i adael yr ysbyty pan fydd yr amser yn iawn.
Mae hyn yn helpu i leihau'r canlynol:
Bydd angen i'r cynllun gynnwys yr hyn sy'n bwysig i chi, a bydd hyn yn helpu staff i gynllunio'n dda. Gadewch i dîm y ward wybod a oes unrhyw faterion gartref y mae angen eu datrys fel nad oes oedi cyn eich rhyddhau.
Mae gennych chi, yn ogystal ag aelodau o'ch teulu neu ofalwyr, hawl i gymryd rhan yn y broses gynllunio, fel eich bod yn gwybod:
Pan fyddwch chi'n barod i fynd adref, caiff rhai opsiynau rhyddhau eu hystyried:
Mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud yn yr ysbyty i ddal ati i symud a pharatoi i fynd adref, gan gynnwys:
Yn ystod eich amser yn yr ysbyty, gall eich teulu neu'ch ffrindiau (gofalwyr neu ofalwyr di-dâl) eich helpu chi. Gallan nhw eich helpu chi â thasgau fel bwyta, gwisgo a cherdded, os oes angen. Gall staff yr ysbyty ddangos iddyn nhw sut mae gwneud hyn yn iawn. Bydd hyn yn eich helpu chi a'ch gofalwr i deimlo'n fwy parod pan fyddwch chi'n mynd adref.
01597 828649 / community.connectors@pavo.org.uk
Bydd y Cysylltydd Cymunedol lleol yn bresennol ar yr uned ar ddiwrnodau penodol. Byddan nhw’n gallu:
Gofynnwch i siarad â’r Cysylltydd Cymunedol pan fyddant yn yr unedau.
Am gymorth, cysylltwch â 01597 826618 neu drwy wrteam@powys.gov.uk
Mae’r Tîm Cynghori Ariannol yn rhoi arweiniad ar gyllidebu, rheoli dyledion, sicrhau’r mwyaf o fudd-daliadau ac opsiynau cymorth ariannol.
0345 6018421
Mae Cyngor ar Bopeth Powys ar agor i alwyr o Bowys, ddydd Mawrth, Mercher a dydd Iau rhwng 9yb a 3yp. Os byddwch yn gadael eich manylion a neges fer, byddant yn dychwelyd eich galwad. Ar gyfer gwasanaeth cyfnewid testun defnyddiwch 18001 08082 505720.
Gallwch hefyd ddefnyddio eu ffurflen ar-lein yn www.powyscitizensadvice.org.uk neu fynychu sesiwn allgymorth leol gyda ni.
Maen nhw’n darparu gwybodaeth a chyngor cyfrinachol, diduedd ac annibynnol am ddim ar ystod o faterion, gan gynnwys: