Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn darparu gofal dros nos mewn wardiau cleifion mewnol ysbytai cymunedol, unedau parod i fynd adref, unedau adsefydlu cleifion mewnol, unedau ailalluogi a wardiau cleifion mewnol iechyd meddwl.
O’r 2 Rhagfyr 2024, bydd BIAP yn darparu gofal dros nos i oedolion mewn pedwar lleoliad:
Mae hyn yn ychwanegol at unedau iechyd meddwl y sir.
Mae gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys Wardiau Ysbyty Cymunedol yn Aberhonddu (Y Bannau), Llandrindod (Claerwen), Machynlleth (Twymyn), Y Trallwng (Maldwyn), Ystradgynlais (Adelina Patti).
Mae gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys Unedau Adsefydlu Cleifion Mewnol yn Aberhonddu (Epynt) a'r Drenewydd (Brynheulog).
Mae gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys Unedau Ailalluogi yn Llanfair-ym-Muallt (Glan Irfon) a Thref-y-clawdd (Ysbyty Tref-y-clawdd / Cottage View).
Mae gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys Unedau Barod i Fynd Adref ym Mronllys a Llanidloes.