Mae gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys Unedau Ailalluogi yn Llanfair-ym-Muallt (Glan Irfon) a Thref-y-clawdd (Ysbyty Tref-y-clawdd / Cottage View).
Mae ein Hunedau Ailalluogi yn darparu cymorth i bobl sy'n barod i adael Ysbyty Cyffredinol Dosbarth ond sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol cyn eu bod yn barod i fynd adref. Mae’r rhain wedi’u lleoli yn Llanfair-ym-Muallt a Thref-y-clawdd.