Mae ‘Healthcare Communications’ yn dechnoleg wedi’i phrofi sy'n cael ei defnyddio'n eang ar draws y GIG. Mae wedi dangos arbedion o filiynau o bunnoedd mewn apwyntiadau a wastraffwyd ac yn rhyddhau amser staff i ofalu.
Mae'r gwasanaeth negeseuon atgoffa drwy decst hwn yn helpu ein cleifion i gofio manylion eu hapwyntiad a lleihau nifer yr apwyntiadau sy’n cael eu colli.
Bydd y negeseuon atgoffa’n cynnwys:
Mae negeseuon atgoffa drwy decst yn caniatáu i gleifion ganslo neu ddiwygio apwyntiadau trwy anfon ymateb. Mae hyn yn helpu gwella eglurder ac mae'n arbennig o ddefnyddiol i gleifion sy'n mynychu amryw o apwyntiadau neu pe bai’r un rhif ffôn cyswllt yn cael ei ddefnyddio ar gyfer sawl aelod o'r teulu.
Anfonir negeseuon atgoffa apwyntiadau ysbyty at gleifion saith diwrnod a/neu 48 awr cyn eu hapwyntiad. Mae hyn yn caniatáu digon o amser i ailddyrannu apwyntiadau cleifion allanol.
Ar hyn o bryd, bydd y negeseuon atgoffa yn dweud wrthych pa rif i'w ffonio os oes angen i chi ganslo neu aildrefnu apwyntiad. Gallwch hefyd ymateb i'r tecst a bydd y tîm trefnu apwyntiadau yn gweithredu eich cais.
Hoffem gadarnhau bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol yn unol â'r gyfraith. Byddwn yn sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel ac yn cael ei defnyddio at y dibenion cyfreithiol y gallwn ei defnyddio yn unig. Gan fod y negeseuon atgoffa drwy decst hyn yn rhan o'ch gofal uniongyrchol a'ch triniaeth gyfredol, gall y bwrdd iechyd ddefnyddio eich rhif ffôn symudol dan GDPR y DU i gysylltu â chi am eich apwyntiad, oni bai eich bod yn dweud wrthym fel arall.
Os nad ydych yn dymuno derbyn negeseuon atgoffa apwyntiad drwy decst, rhowch wybod i'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol neu'r tîm trefnu apwyntiadau a byddwn yn diweddaru eich cofnod i adlewyrchu eich dewis yn unol â'ch hawliau dan GDPR y DU. Os nad eich rhif personol yw'r rhif ffôn symudol rydych yn ei roi e.e. mae'n perthyn i aelod o'r teulu neu ffrind, sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod iddyn nhw a bod gennych eu caniatâd. Gall derbyn nodyn atgoffa am apwyntiad nad ydynt yn ymwybodol ohono arwain at ddryswch a galwadau diangen i'r ganolfan trefnu apwyntiadau.