Mae endosgopi yn weithdrefn lle mae'r tu mewn i'ch corff yn cael ei archwilio'n fewnol gan ddefnyddio endosgop. Mae endosgop yn ddyfais sydd ynghlwm wrth olau ac yn cael ei defnyddio i archwilio tu fewn i gorff neu organ. Mae’r sgôp yn cael ei fewnosod trwy agoriad naturiol yn y corff megis y geg yn ystod gastrosgopi neu trwy’r rectwm yn ystod sigmoidosgopi / colonosgopi.
Y defnydd mwyaf cyffredin o weithdrefn endosgopi yw archwilio symptomau sy'n achosi anghysur neu bryder i chi. Efallai y bydd endosgopi yn cael ei argymell i archwilio’r symptomau canlynol:
Fel arfer, mae endosgopi yn cael ei wneud tra bod person ar ddihun. Nid yw'n boenus ond gall fod yn anghyfforddus felly gellir rhoi cyffur tawelu (meddyginiaeth sy'n cael effaith dawelu) i'ch helpu i ymlacio. Mae'r endosgop yn cael ei fewnosod yn ofalus yn y ceudod i'w archwilio - (stumog neu’r coluddyn). Gall endosgopi gymryd 15-60 munud i'w gynnal, yn dibynnu ar yr ardal sy'n cael ei harchwilio. Mae endosgopi yn cael ei berfformio fel achos claf allanol, sy'n golygu na fydd yn rhaid i chi aros yn yr ysbyty dros nos.
Mae 2 uned endosgopi ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys ac mae'r rhain wedi'u lleoli yn Ysbyty Coffa Rhyfel Aberhonddu ac Ysbyty Coffa Rhyfel Llandrindod. Mae Ysbyty Coffa Rhyfel Aberhonddu yn gallu cynnig y gwasanaeth i gleifion dros 16 oed ac mae Ysbyty Coffa Rhyfel Llandrindod yn gallu cynnig y gwasanaeth i gleifion dros 18 oed.
Ysbyty Coffa Rhyfel Aberhonddu |
Ysbyty Coffa Rhyfel Llandrindod |
Mae uned endosgopi yn darparu gwasanaethau cleifion allanol / mynediad uniongyrchol i gleifion achos dydd ar gyfer: Colonosgopi |
Mae uned endosgopi yn darparu gwasanaethau cleifion allanol / mynediad uniongyrchol i gleifion achos dydd ar gyfer: Cystosgopi Hyblyg |
Mae'r unedau endosgopi yn darparu gwasanaethau endosgopi diagnostig mewn lleoliad cymunedol. Mae'n cael ei redeg gan dîm sy'n cynnwys Ymgynghorwyr, Endosgopydd Clinigol Uwch, Endosgopydd Clinigol a staff Nyrsio sydd â sgiliau a diddordeb arbennig a chymwysterau mewn gwasanaethau gastroenteroleg.
Rydym yn gallu darparu taflenni gwybodaeth i gleifion cyn y driniaeth ar gyfer:
Cysylltwch â'r tîm Archebu Endosgopi ar 01874 615808/01874 615697/01874 615810 a fydd yn gallu anfon y rhain atoch drwy e-bost neu'r post.
Mae'r uned fel arfer ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8:00 a 18:00 ac mae rhaglen Sgrinio Coluddyn Cymru yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn.
Dydd Llun i ddydd Gwener:
01874 615815 – ymholiadau clinigol
01874 615808 / 01874 615697 / 01874 615810 – ymholiadau apwyntiadau / canlyniadau
Adborth:
Cynhelir arolygon bodlonrwydd cleifion, mae hyn yn rhoi cyfle i gleifion siarad am eu profiad ac yn rhoi’r cyfle i'r Bwrdd Iechyd wella neu gynnal eu gwasanaethau.
Mae gwybodaeth am wasanaethau endosgopi ar gael ar hyn o bryd o'n gwefan etifeddiaeth.