Mae Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau Electronig ar fin trawsnewid y ffordd y mae gofal eilaidd yn cael ei ddarparu i gleifion. Gwneir hyn drwy ddigideiddio’r broses o ragnodi, prosesu a chofnodi gweinyddu meddyginiaethau.
Beth mae hyn yn ei olygu i gleifion?
Bydd y system ddigidol yn disodli prosesau papur presennol, gan gynnwys siartiau cofnodion presgripsiwn a gweinyddu, crynodebau rhyddhau a ffurflenni presgripsiwn. Bydd hyn yn helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddarparu gofal yn fwy effeithiol a threulio mwy o amser gyda'u cleifion.
Ar ddechrau 2023, dewisodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys gyflenwr technoleg, Better, i hwyluso'r newid hwn o fewn y bwrdd iechyd, gyda diweddariadau pellach i ddod.