Neidio i'r prif gynnwy

Recriwtio Cyn-filwyr

Llun o Fannau Brycheiniog gyda delweddau o staff y GIG

Gadael Y lluoedd? Dewch I weithio yng nghalon Cymru

Symud un tîm i'r llall

Mae gennym ystod eang o rolau ar gael, o Nyrsio, Therapïau ac Iechyd Meddwl i Drydanwyr a Staff Gweinyddol.

Rydym yn gwybod bod pobl o'r lluoedd arfog yn dod ag ystod eang o sgiliau sy’n berffaith ar gyfer y GIG a lle gwell i ddechrau cam nesaf eich gyrfa nag yn rhan harddaf y DU?

Mae gennym dîm o staff recriwtio arbenigol yn aros i glywed gennych.

Cysylltwch nawr drwy ffonio 01874 712580 neu e-bostio powys.workforcegeneralenquiries@wales.nhs.uk

 

Am yr holl swyddi presennol ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys cliciwch yma

25/06/26
Dathlu Wythnos y Lluoedd Arfog ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys
Lluniau o Raychelle Lewis
Lluniau o Raychelle Lewis

Wrth i ni nodi Wythnos y Lluoedd Arfog (22–28 Mehefin), mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn falch o gydnabod a dathlu cyfraniad personél sy'n gwasanaethu, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn a theuluoedd milwrol.

22/06/26
Cefnogi a Dathlu Ein Cymuned Lluoedd Arfog

Yr Wythnos Lluoedd Arfog hon, rydym yn cydnabod ac yn diolch i gydweithwyr, teuluoedd a chymunedau sy'n gysylltiedig â'r Lluoedd Arfog.

20/06/25
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wrth ei fodd o ennill Gwobr Arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn (ERS) 2025

Mae Gwobr Arian ERS yn cydnabod cyflogwyr sydd wedi dangos cefnogaeth eithriadol i gymuned y Lluoedd Arfog drwy ddatblygu a gweithredu polisïau gweithle ymarferol a chynhwysol.

06/06/24
Neges gan ein Is-Gadeirydd ar 80 mlynedd ers D-Day
Gardd
Gardd

Heddiw, ar ben-blwydd D-Day yn 80 oed , ymunwn â’r genedl i gofio ac anrhydeddu’r rhai a fu farw.

Rhannu:
Cyswllt: