Mae govDelivery yn wasanaeth tanysgrifio i fwletin newyddion e-bost am ddim y gallwch gofrestru iddo a derbyn diweddariadau newyddion rheolaidd trwy e-bost yn uniongyrchol i'ch mewnflwch.
Mae’n hawdd cofrestru a gallwch ddewis o chwe phwnc newyddion:
Dilynwch y broses 3 cam syml:
Cam 1. Yn gyntaf, nodwch eich cyfeiriad e-bost.
Cam 2. Cadarnhewch hwn ac yna gallwch osod cyfrinair dewisol a bwrw golwg dros ein polisi preifatrwydd data.
Cam 3. Dewiswch y pynciau yr hoffech danysgrifio iddynt a nodwch yr ardal leol rydych chi’n byw ynddi, neu’r ardal agosaf i chi, ac yna pwyswch i gyflwyno. (Gallwch ddewis mwy nag un pwnc neu leoliad).
Byddwch wedyn yn derbyn e-bost croeso i ddweud eich bod wedi tanysgrifio'n llwyddiannus. Bydd eich bwletin/au dewisol yn cyrraedd trwy e-bost yn ystod y mis.
Ar ôl tanysgrifio, gallwch hefyd gyrchu a newid eich dewisiadau gan gynnwys dad-danysgrifio o'r pynciau/gwasanaeth. Mae dolenni ar waelod pob bwletin i wneud hynny. Gobeithiwn eich bod yn mwynhau derbyn newyddion a diweddariadau gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.