Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad Ar-lein: Gofyn am eich barn ar gais gan Bractis Grŵp Crucywel i gau Meddygfa Belmont yng Ngilwern

Dechrau:
18:00 - 30/01/2023
Diwedd:
19:00 - 30/01/2023
Math o ddigwyddiad:
Lleoliad:

Disgrifiad

Ymunwch am 6yh ddydd Llun 30 Ionawr drwy'r ddolen digwyddiad hon.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi cael cais gan Bractis Grŵp Crucywel i gau Meddygfa Belmont yng Ngilwern.

Y prif resymau dros y cais yw’r canlynol:

  • Heriau ledled y DU i recriwtio a chadw ymarferwyr meddygol cyffredinol (meddygon teulu).
  • Ymddeoliad pedwar partner meddyg teulu sy’n berchnogion safle'r feddygfa, gyda diffyg dewisiadau amgen hyfyw ar gyfer trosglwyddo perchnogaeth.

Felly, mae'r Bwrdd Iechyd wedi gweithredu ei Broses Adolygu Practis, sy'n cynnwys:

  • Adolygu'r cais gan y practis.
  • Rhannu gwybodaeth â chleifion a rhanddeiliaid ehangach i geisio eich barn.
  • Ymgysylltu â'r Cyngor Iechyd Cymunedol, sef y corff statudol i gynrychioli diddordeb cleifion a'r cyhoedd.
  • Ystyried yr adborth a gawn, ac ystyried hwn wrth wneud penderfyniad ynghylch y cais mewn cyfarfod cyhoeddus gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Cynhelir y cyfnod hwn o ymgysylltu rhwng 10 Ionawr 2023 a 6 Mawrth 2023.

I ddysgu mwy ac i ddweud eich dweud erbyn 6 Mawrth 2023 ewch i www.dweudeichdweud.cymru/gilwern

Fel rhan o'r broses ymgysylltu hon cynhelir sesiwn ar-lein ddydd Llun 30 Ionawr 2023 rhwng 6yh a 7yh. Cynhelir y sesiwn hono drwy Microsoft Teams a gallwch wylio drwy ap Microsoft Teams neu drwy ddefnyddio eich porwr. Cliciwch ar y ddolen hon am 6yh ar 30 Ionawr 2023 i ymuno â'n sesiwn ar-lein.

Rhannu:
Cyswllt: