28 Gorffennaf 2025
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) wedi partneru â'r elusen arddwriaethol leol Flora Cultura i gynnig gweithgareddau garddio yn yr awyr agored i ddatblygu sgiliau er budd y rhai â chyflyrau iechyd meddwl a hefyd y rhai ag anableddau dysgu neu gyflyrau niwrolegol.
Mae Flora Cultura yn elusen sydd wedi'i lleoli yn y Mynyddoedd Du sy'n cynnig garddwriaeth gymdeithasol therapiwtig i bobl ledled Canolbarth Cymru.
Maen nhw nawr yn gofalu am ran fawr o'r hen berllan a gardd gegin yn Ysbyty Bronllys, gan eu hailddefnyddio fel perllannau a gardd fwyd a gweithio gyda chleifion a staff i wella lles meddyliol a chorfforol.
Gall cleifion gael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth gan unrhyw adran neu sefydliad iechyd, gan Gysylltwyr Cymunedol PAVO neu gallant hunanatgyfeirio hefyd.
Esboniodd Rashid Benoy, un o Gyfarwyddwyr Flora Cultura, “Mae’r safle hwn wedi cael ei reoli’n arddwriaethol o’r blaen, ond mae hi wedi bod yn beth amser ers i bobl fod yn garddio yn yr ardal hon.
Felly mae'n gyfle gwych iawn i'n helusen gael gofod lle gallwn greu cartref a gardd ac i ni weithio ynddo, ond hefyd yn fuddiol i’r ysbyty.
Rydym yn mawr obeithio y bydd y cleifion sy'n dod i'r ysbyty, boed yn gleifion mewnol neu'n gleifion allanol a'r staff, yn cael defnyddio'r ardd hon er eu lles.”
Dywedodd Mark Stafford Tolley, Swyddog Cyswllt Cymunedol BIAP, “Rwyf wrth fy modd bod y bwrdd iechyd yn gweithio gyda Flora Cultura, sydd eisoes wedi bod yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn. Maen nhw wedi derbyn atgyfeiriadau gan nifer o wasanaethau gwahanol BIAP ac rwy'n siŵr y byddan nhw'n mynd o nerth i nerth gyda'u gwybodaeth a'u profiad o arddwriaeth gymdeithasol therapiwtig.”
Gall y rhai sydd â diddordeb mewn darganfod mwy wneud hynny yn www.floracultura.org.uk