Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Gwahodd Preswylwyr i Ddigwyddiadau Galw Heibio Cymunedol sy'n weddill

15 Rhagfyr 2025

Mae saith digwyddiad galw heibio o hyd o amgylch y sir i breswylwyr ddweud eu dweud gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys fel rhan o'i raglen Gwella Gyda'n Gilydd.

Mae presenoldeb yn y chwe digwyddiad hyd yn hyn wedi bod yn ardderchog ac mae pobl wedi cael y cyfle i drafod yr hyn sy'n bwysig iddynt gyda staff y bwrdd iechyd.

Mae digwyddiadau galw heibio “Eich Gwasanaethau Iechyd” yn digwydd rhwng Tachwedd a Chwefror.

Dywedodd Adrian Osborne, Dirprwy Gyfarwyddwr gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: “Gwella Gyda’n Gilydd yw ein sgwrs fawr gyda phobl Powys i lunio dyfodol gwasanaethau iechyd y sir. Rydym yn gwybod bod gwasanaethau iechyd yn wynebu heriau ar hyn o bryd. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda chymunedau lleol i ddatblygu cynllun sy'n diwallu anghenion iechyd cymunedau Powys dros y 10 i 25 mlynedd nesaf a thu hwnt.

“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r sir wedi profi llawer o newidiadau. Mae cymunedau'n mynd yn hŷn – ac, wrth i ni heneiddio, mae mwy o bobl yn byw gyda chyflyrau iechyd lluosog. Mae effaith pandemig COVID-19 dal i’w gweld ar wasanaethau, gyda galw cynyddol am driniaethau a rhestrau aros sy'n tyfu. Mae cynnydd mewn costau byw yn effeithio ar y ffordd rydym yn rheoli ein hiechyd a'n lles. Ac mae newidiadau yn y gymdeithas yn golygu bod cyfran y bobl o oedran gweithio yn lleihau. Drwy gydweithio gallwn ddatblygu datrysiadau sy'n gweithio i Bowys.”

Bydd trigolion yn gallu siarad ag aelodau o Dîm Ymgysylltu’r bwrdd iechyd, darganfod mwy am y rhaglen Gwella Gyda’n Gilydd, a rhannu eu barn ar wasanaethau iechyd.

“Yn ystod 2025 mae rhaglen Gwella Gyda’n Gilydd wedi canolbwyntio ar wasanaethau cymunedol iechyd corfforol a meddyliol i oedolion, yn ogystal â’r newidiadau dros dro i wardiau ac Unedau Mân Anafiadau. Wrth edrych ymlaen, byddwn hefyd yn canolbwyntio ar wasanaethau i fenywod a phlant, gofal wedi'i gynllunio, a gwasanaethau diagnostig. Ein digwyddiadau cymunedol rhwng Tachwedd a Chwefror yw eich cyfle i ddysgu mwy a dweud eich dweud ar y gwaith hyd yn hyn, ac ar y dyfodol.”

Ochr yn ochr â Gwell Gyda'n Gilydd a newidiadau dros dro i wasanaethau, bydd gwybodaeth hefyd ar gael am amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys y gwasanaeth cymorth iechyd meddwl ar-lein am ddim SilverCloud, Gwella'r Daith Canser ym Mhowys, Helpu Ni i'ch Helpu Chi a mwy.

 

Mae'r digwyddiadau galw heibio sy'n weddill yn digwydd rhwng 3yp a 6yh mewn cyfres o leoliadau ledled y sir:

  • Dydd Mawrth 6 Ionawr yn yr Institiwt yn Llanfair Caereinion
  • Dydd Iau 8 Ionawr yn Y Plas ym Machynlleth
  • Dydd Iau 15 Ionawr yng Nghanolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanfyllin
  • Dydd Iau 22 Ionawr yn y Swan yn y Gelli a Thalgarth
  • Dydd Mawrth 27 Ionawr yn y Ganolfan Gymunedol yn Llanidloes
  • Dydd Mawrth 3 Chwefror yn y Pafiliwn yn Llandrindod
  • Dydd Iau 12 Chwefror yn Neuadd Clarence yng Nghrucywel

 

Digwyddiadau blaenorol:

  • Dydd Mercher 26 Tachwedd yn Neuadd y Ddinas yn Aberhonddu
  • Dydd Gwener 28 Tachwedd yn y Strand yn Llanfair-ym-Muallt
  • Dydd Mawrth 2 Rhagfyr yn Hafan Yr Afon yn Y Drenewydd
  • Dydd Iau 4 Rhagfyr yn Neuadd Les y Glowyr yn Ystradgynlais
  • Dydd Mawrth 9 Rhagfyr yn y Corn Exchange yn y Trallwng
  • Dydd Mercher 10 Rhagfyr yn The Comm yn Nhref-y-clawdd