Neidio i'r prif gynnwy

Cymerwch eich cam cyntaf i'r GIG fel prentis cadet gofal iechyd ac ennill cyflog wrth i chi ddysgu

5 Medi 2025

Mae'r brentisiaeth wych hon yn cynnig cyfle i unigolion sy’n newydd i’r byd gwaith, 16+ oed, sydd â phrofiad gofal iechyd cyfyngedig neu ddim o gwbl, i ddechrau ar yrfa ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys a chymryd eu cam cyntaf ar eu taith ddatblygu i ddod yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Bydd ein Cadetiaid yn gweithio dan oruchwyliaeth gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig i ddarparu'r gofal o’r safonau uchaf i'n cleifion, i gyd gydag urddas, parch a thosturi. Bydd y gofal hwn yn cynnwys cynorthwyo cleifion â'u hanghenion personol, fel golchi, mynd i’r tŷ bach, gwisgo a bwyta.

Darperir hyfforddiant llawn gan sicrhau bod cadetiaid yn meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth i gyflawni dyletswyddau clinigol arferol, fel monitro cyflwr iechyd claf, gan gynnwys gwirio pethau fel pwysedd gwaed, tymheredd, pwysau, cysur a lles cyffredinol.

Os oes gennych angerdd am helpu gofalu am drigolion Powys ac ennill cyflog wrth weithio tuag at ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol, yna ystyriwch wneud cais.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Anne-Marie Mason: powys.healthandcareacademy@wales.nhs.uk