8 Gorffennaf 2025
Ers i ni lansio cam diweddaraf ein hymgysylltiad Gwella Gyda'n Gilydd ar 9 Mehefin, rydym wedi bod yn clywed gan bobl ledled Powys am ddyfodol gwasanaethau cymunedol iechyd corfforol a meddyliol i oedolion. Hoffwn eich annog i rannu eich barn os nad ydych wedi cael y cyfle i wneud eisoes.
Mae hon yn sgwrs hanfodol ynglŷn â sut rydym yn ymateb i'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau iechyd lleol—galw cynyddol, pwysau ar y gweithlu, seilwaith sy'n heneiddio, a chyfyngiadau ariannol. Mae'r senarios rydyn ni wedi'u rhannu wedi'u cynllunio i sbarduno syniadau a sgwrs ynghylch sut y gallwn ni gydweithio i lunio gwasanaethau sy'n ddiogel, yn gynaliadwy, ac yn canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i'n cymunedau.
Mae eich mewnwelediadau a'ch profiad yn hynod werthfawr wrth ein helpu ni ddeall effaith y senarios hyn ac wrth lunio'r ffordd orau ymlaen.
Gallwch ddarllen y ddogfen ymgysylltu a rhannu eich barn erbyn 27 Gorffennaf 2025 yn https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/gwella-gydan-gilydd-haf25. Mae copïau caled ar gael mewn llyfrgelloedd lleol neu gellir gofyn amdanynt drwy ffonio 01874 442917 a gadael eich enw a'ch cyfeiriad.
Mae digwyddiadau lleol eisoes wedi digwydd yn Aberhonddu, Y Trallwng ac Ystradgynlais ond mae amser o hyd i ymuno â ni yn Llandrindod ar 10 Gorffennaf ac yn y Drenewydd ar 16 Gorffennaf, yn ogystal ag yn ein digwyddiad ar-lein yfory (9 Gorffennaf) am 7yh.
Diolch am eich cefnogaeth barhaus ac am ein helpu ni lunio dyfodol gwasanaethau iechyd diogel, o ansawdd uchel i Bowys.
Cofion cynnes,
Hayley Thomas
Prif Weithredwr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys