Neidio i'r prif gynnwy

GIG yn troi'n 77

Gorffennaf 8fed 2025

Mae’r 5ed o Orffennaf yn nodi pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 77 oed. Dros y blynyddoedd bu llawer o newidiadau a gwelliannau mewn gofal iechyd a, diolch i'r GIG, mae gan y DU un o'r gwasanaethau iechyd gorau yn y byd.

Mae hyn i gyd diolch i'r staff mwyaf anhygoel sydd gennym ni. Felly, yma ym Mhowys, rydym yn falch o fod wedi bod yn dathlu ein staff yn y cyfnod cyn y pen-blwydd gyda'n Gwobrau Rhagoriaeth Staff.

Mae ein staff wrth wraidd yr hyn a wnawn. O'r timau cyfleusterau sy'n bwydo ein cleifion ac yn cadw’r wardiau'n lân, i'n staff clinigol a phawb yn y canol, mae pob aelod o staff yn hanfodol wrth redeg y bwrdd iechyd.

Bob blwyddyn rydym yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau dathlu ar-lein ac yn rhoi gwobrau i'r unigolion a'r timau hynny sy'n wirioneddol sefyll allan.

Mae enillwyr eleni’n cynnwys:

  • Lle Gwych i Weithio: Nyrsys Ardal Ystradgynlais
  • Seren y Dyfodol: Chloe Evans​ - Therapydd Galwedigaethol Iechyd Meddwl Amenedigol Arbenigol ac Isabel Royle - Rheolwr a Hwylusydd Rhaglen Diwylliant, Arweinyddiaeth ac Olyniaeth
  • Ansawdd a Rhagoriaeth mewn Ymarfer: Tîm Gofal Lliniarol Arbenigol
  • Gwella Iechyd ym Mhowys: Tîm Bydwreigiaeth Powys Gyfan
  • Partneriaeth a Chydweithio: Tîm Diogelu Iechyd ar y Cyd Ffit i Ffermio a Mark Stafford-Tolley - Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned
  • Arweinyddiaeth a Chymryd Cyfrifoldeb: Aled Fletcher - Goruchwyliwr Gwasanaethau Cymorth
  • Cydweithiwr Cefnogol: Julie Barrett – Ymarferydd Iechyd Meddwl a Rachael Jones, Nyrs y Ward

Ac ar ddydd Llun rydym yn edrych ymlaen at ddarganfod pwy sydd wedi ennill Tîm y Flwyddyn!

Diolch i'n holl staff ac i'n cleifion am eu cefnogaeth a'u dealltwriaeth wrth i'r GIG symud ymlaen, ac edrychwn ymlaen at y 77 mlynedd nesaf!