Neidio i'r prif gynnwy

Nôl i'r ysgol: Sut i sylwi ar arwyddion gorbryder yn eich plentyn

26 Awst 2025

Gall y cyfnod dychwelyd i'r ysgol fod yn gyfnod o gyffro, ond gall hefyd achosi gorbryder, yn enwedig i blant sy'n dechrau ysgol newydd. I rieni, nid yw bob amser yn hawdd gweld y gwahaniaeth rhwng y nerfusrwydd bob dydd hynny a rhywbeth mwy difrifol.

Yn aml, nid oes gan blant a phobl ifanc y geiriau i esbonio beth sy'n digwydd. Efallai nad ydyn nhw'n gwybod mai'r emosiwn maen nhw'n ei deimlo yw'r hyn y byddech chi'n ei adnabod fel gorbryder. Dyna pam ei bod hi’n bwysig gwybod pa arwyddion i edrych amdanynt, a sut i’w cefnogi os ydyn nhw’n cael trafferth.

1. Cadw llygad allan am gwynion corfforol

Mae poenau stumog, cur pen, teimlo'n sâl neu'n flinedig ond nad yw’n arferol i gyd yn ffyrdd cyffredin i'r corff fynegi gorbryder. Os nad yw'n ymddangos bod achos meddygol i'r symptomau hyn - ac yn enwedig os ydyn nhw'n codi ar foreau ysgol - gallai gorbryder fod yr achos sylfaenol.

2. Sylwi ar newidiadau mewn ymddygiad

A yw eich plentyn wedi dechrau glynu wrth bobl yn fwy, wedi dechrau tynnu’n ôl, yn bigog, neu'n hawdd cynhyrfu? Ydyn nhw'n osgoi sefyllfaoedd ysgol neu gymdeithasol yr oedden nhw wedi'u mwynhau o'r blaen? Gall y newidiadau hyn fod yn arwyddion bod eich plentyn yn teimlo'n llethol neu'n orbryderus.

3. Anawsterau cwsg

Mae meddyliau gorbryderus yn aml yn codi cyn mynd i'r gwely. Gallai anhawster wrth syrthio i gysgu, deffro’n aml, neu hunllefau ddangos bod eich plentyn yn poeni am rywbeth.

4. Annog sgyrsiau agored

Ceisiwch greu lle tawel lle mae'ch plentyn yn teimlo'n ddiogel i siarad. Gall cwestiynau ysgafn, agored fel, “Sut wyt ti’n teimlo am fynd yn ôl i’r ysgol?” ei helpu mynegi beth sydd ar ei feddwl heb bwysau.

5. Bydd yn amyneddgar ac yn galonogol

Tawelwch ei feddwl ei bod hi'n iawn teimlo'n nerfus a'ch bod chi yno i'w cefnogi. Mae trefn arferol, canmoliaeth am gamau bach, a chysondeb i gyd yn helpu meithrin diogelwch emosiynol.


Does dim rhaid i chi wneud hyn ar eich pen eich hun

Drwy GIG Cymru, mae gennych fynediad ar-lein am ddim i raglenni SilverCloud® ar gyfer rhieni sy'n cefnogi plant a phobl ifanc sydd â gorbryder.

Gall cael cefnogaeth nawr helpu atal problemau mwy difrifol rhag datblygu.

Mae'r offer hunan-dywys hyn yn cynnig strategaethau sydd wedi'u profi'n glinigol i'ch helpu chi ddeall beth mae eich plentyn yn mynd drwyddo, a'r ffordd orau o'i helpu. Nid oes rhestr aros. Maen nhw ar gael unrhyw bryd, unrhyw le, heb angen gweld meddyg teulu.

I ddechrau arni gyda “Cefnogi Plentyn Gorbryderus” neu “Cefnogi Person Ifanc Gorbryderus” heddiw, cofrestrwch yma.