Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect Celfyddydau ac Iechyd Powys 'Mynegwch Eich Hun' ar y Rhestr Fer ar gyfer Gwobr Adsefydlu Fawreddog

6 Hydref 2025

Mae'r fenter celfyddydau ac iechyd Mynegwch Eich Hun, dan arweiniad Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP), wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Rhagoriaeth mewn Adsefydlu yng Ngwobrau Hyrwyddo Gofal Iechyd Cymru 2025.

Cychwynnwyd y rhaglen feiddgar ac arloesol hon yn wreiddiol gan y tîm Therapi Iaith a Lleferydd yn BIAP, a nododd yr angen am gefnogaeth greadigol i oedolion sy'n byw ag anawsterau cyfathrebu yn sgil cyflyrau niwrolegol. Gosododd eu gweledigaeth y sylfaen ar gyfer ymateb cydweithredol, dan arweiniad y celfyddydau, sydd ers hynny wedi tyfu i fod yn brofiad trawsnewidiol i gyfranogwyr.

Drwy gyfres o weithdai drama greadigol a symud dan arweiniad gweithwyr proffesiynol celfyddydol lleol enwog gan gynnwys Shakespeare Link, archwiliodd y cyfranogwyr ffyrdd newydd o fynegi eu hunain, meithrin hyder, ac ailgysylltu â'u cymunedau.

Datblygwyd a chyflwynwyd y prosiect gan dîm Mynegwch Eich Hun mewn cydweithrediad â rhaglen Celfyddydau mewn Iechyd BIAP, gyda chefnogaeth gan staff, cyfranogwyr a chyllidwyr. Mae wedi cael ei ganmol am ei ddull cynhwysol, ei werth therapiwtig, ac ansawdd ei ganlyniadau artistig.

Dywedodd un cyfranogwr: “Fe wnaeth llwyddo i fy ngwthio y tu allan i ble sy’n gysurus i mi, a doeddwn i ddim wedi sylwi ro’ ni yno. Roedd defnyddio synau a lleferydd yn anodd i mi, ond oherwydd natur y sesiynau, doedd e ddim yn teimlo fel therapi lleferydd.”

Dywedodd Arweinydd y Prosiect, Ceinwen Douglas:
“Rydym wrth ein bodd gweld Mynegwch Eich Hun yn cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol. Mae'r prosiect hwn wedi dangos sut y gall creadigrwydd ddatgloi potensial a meithrin adsefydlu ystyrlon. Rydym yn falch o bob cyfranogwr ac yn ddiolchgar i'n partneriaid a'n harianwyr am gredu yn y weledigaeth.”

Mae'r prosiect hwn wedi bod yn bosibl diolch i gefnogaeth ariannol werthfawr gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy Gronfa Iechyd a Llesiant y Celfyddydau, ac Elusen Iechyd Powys.

Dymunwn y gorau i'r tîm cyfan. Cynhelir y seremoni wobrwyo yn hwyrach eleni, gan ddathlu rhagoriaeth ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.