24 Gorffennaf 2025
Mae Cynghrair Cyfeillion y Trallwng wedi rhoi rhodd garedig a hael iawn i Adran Offthalmoleg Cleifion Allanol yn Ysbyty'r Trallwng.
Cyflwynwyd y cadeiriau arbenigol gan Mrs Sue Usmar, Cadeirydd Cynghrair y Cyfeillion, yn ogystal ag aelodau eraill o'r grŵp, mewn cyflwyniad byr.
Mae gan y cadeiriau newydd olwynion er mwyn gallu gosod cleifion yn hawdd yn barod ar gyfer sganio llygaid. Yn flaenorol, gallai fod yn anodd i gleifion â phroblemau symudedd yn ogystal â'r rhai sy'n byw gyda phoen neu broblemau gwybyddol gyrraedd y safle cywir ar gyfer eu sgan.
Mae'r cadeiriau newydd yn helpu cleifion i deimlo'n gyfforddus ac yn ddiogel. Mae hyn yn ei gwneud hi'n llawer haws i staff symud cleifion ag urddas gan leihau'r risg o anaf i gleifion neu staff.
Yn bresennol yn y cyflwyniad oedd: Dros gynghrair y cyfeillion; Mrs Sue Usmar, Cadeirydd, Peter Grassi, Jane Hughes, Frances Grassi, Derek Simms. Ar ran y bwrdd iechyd; Sharon Harrington, Tracey Thornton, Linda Aldridge.
Hoffai tîm Offthalmoleg Cleifion Allanol ddiolch i Gynghrair Cyfeillion y Trallwng am eu rhodd hael.