Ydych chi'n byw yn, neu ar gyrion y Drenewydd? Neu ydych chi'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal yn y dref?
Dysgwch fwy am gynlluniau ar gyfer canolfan iechyd a lles newydd yn y Drenewydd yn ein sesiynau galw heibio yn Hafan yr Afon ar Stryd Gefn;
Cynhelir sesiwn ymgysylltu â'r cyhoedd ar-lein hefyd ddydd Llun 10fed Tachwedd am 6yh-7yh a byddwn yn cyhoeddi'r manylion yn yr wythnosau nesaf.
Dyma gam cyntaf prosiect i wella cyfleusterau iechyd a lles yng Ngogledd Powys. Bydd y cam cyntaf yn canolbwyntio'n bennaf ar wasanaethau i bobl sy'n byw yn y Drenewydd a chymunedau cyfagos. Mae uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys ysbyty newydd yng nghanol y Drenewydd.
Mae Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn awyddus i glywed gan bobl sy’n byw yn, ac ar gyrion y Drenewydd am y cynlluniau hyn i ddod ag ystod eang o wasanaethau ynghyd o dan un to, gan ei gwneud hi'n haws i chi a'ch teulu gael mynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.
Bydd eich barn yn cyfrannu at gais am gyllid i Lywodraeth Cymru a allai weld buddsoddiad o £30 miliwn mewn cyfleusterau iechyd a lles yn y Drenewydd.
Bydd tîm o'r bartneriaeth – Rhaglen Lles Gogledd Powys – yn cynnal sesiwn galw heibio gyhoeddus i drafod y cynigion ar gyfer y ganolfan iechyd a lles. Bydd y wybodaeth hefyd ar gael ar-lein yn ddiweddarach y mis hwn i bobl ei gweld a dweud eu dweud ar wefan y rhaglen www.powyswellbeing.wales.
Beth allai'r hyb newydd ei olygu i chi?
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd eich barn yn helpu llunio cais am gyllid o £30 miliwn, a ddisgwylir i’w gyflwyno gan Gyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i Lywodraeth Cymru y gaeaf hwn. Os caiff ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru - ac yn amodol ar ganiatâd cynllunio - gallai'r ganolfan newydd agor o fewn tair blynedd.
Nod y prosiect yw creu cymuned iachach, fwy cysylltiedig, gyda mynediad haws at wasanaethau ataliol sy'n eich helpu chi aros yn iach ac osgoi teithiau diangen i'r ysbyty.
Dyma gam cyntaf prosiect aml-gam i wella gwasanaethau iechyd a lles ledled Gogledd Powys. Yn dilyn ein cais am gyllid y gaeaf hwn, byddwn yn parhau i weithio gyda chymunedau lleol i ddatblygu cynlluniau ar gyfer ysbyty newydd i'r Drenewydd a chyfleusterau diagnosteg a thriniaeth newydd.
Mae'r datblygiadau hyn bellach yn cael eu cyflawni drwy raglen aml-gam yn hytrach nag un cais am gyllid. Mae hyn oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi nodi bod dull graddol ar gyfer campws y Drenewydd yn fwy tebygol o fod yn fforddiadwy ac yn gyraeddadwy i'r pwrs cyhoeddus.