Neidio i'r prif gynnwy

Triniwr galwadau BIAP yn canmol llinell iechyd meddwl sy'n 'achub bywydau'

22 Ebrill 2026

Dywed triniwr galwadau o Bowys fod gwasanaeth cymorth iechyd meddwl 24 awr y dydd y sir wedi achub ei bywyd pan wynebodd orbryder llethol yn ystod beichiogrwydd heb ei gynllunio.

Mae Esther Barton wedi gweithio gyda'r tîm 111, pwyso 2 ers ei lansio yn y sir ym mis Mai 2023.

Mae'r gwasanaeth ar waith 24/7 ac mae ymarferwyr iechyd meddwl hyfforddedig ar gael dros alwad ffôn.

Dywed Esther, o'r Drenewydd, nad oedd hi erioed wedi dychmygu y byddai angen eu cefnogaeth a'u harweiniad arni hi ei hun ryw ddydd – nes i fywyd gymryd tro annisgwyl a'i gadawodd yn stryglo ymdopi.

“Rwy’n gwybod o brofiad personol pa mor frawychus yw codi’r ffôn hwnnw,” meddai Esther. “Ond rwyf hefyd yn gwybod pa mor bwysig yw cymryd y cam hwnnw.”

“Mae hwn yn wasanaeth sydd wir yn achub bywydau. Rydw i mor ddiolchgar.”

Darganfu Esther, sydd ar hyn o bryd yn astudio am radd dan Raglen Darpar Nyrsys Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, ei bod yn feichiog yn haf 2024.

Dywedodd, er gwaethaf ei hyfforddiant iechyd meddwl, fod dod i dermau â mamolaeth sydd ar ddod wedi ei hanfon i mewn i gorwynt o orbryder ac iselder.

“Roeddwn i mewn perthynas fregus, ac allwn i ddim deall sut olwg fyddai ar fy mywyd gyda babi,” eglurodd Esther. “Roeddwn i’n isel, doeddwn i ddim yn cysgu ac roeddwn i’n cael trafferth gyda meddyliau tywyll.

“Byddwn i’n mynd o boeni am beidio â gallu ymdopi fel mam, i fod yn ofnus o golli fy mabi, i fod yn llawn gorbryder ynghylch rhoi genedigaeth. Roeddwn i'n meddwl am y gwaethaf - roeddwn i wir yn eithaf sâl.”

Erbyn diwedd 2024, mae Esther yn dweud yr oedd hi ar 'bwynt torri'.

“Roeddwn i’n gwybod yr holl gyngor, ond roeddwn i’n rhy sâl i’w roi ar waith,” meddai Esther. “Mewn rhai ffyrdd, roedd bod yn ymarferydd iechyd meddwl yn ei gwneud hi'n anoddach fyth codi'r ffôn.

“Ond sylweddolais, er fy mod i’n gweithio iddyn nhw, ac er mor anodd ag yr oeddwn i’n gwybod y byddai i mi, y byddai’n rhaid i mi ffonio’r gwasanaeth 111 opsiwn 2.”

Un noson, tua 10yh a heb unman arall i droi, gwnaeth Esther yr alwad.

“Roeddwn i’n poeni y byddai’n un o fy nghydweithwyr ar y pen arall,” mae hi’n cofio. “Wrth gwrs, roedd hi’n adnabod fy enw ar unwaith, ond roedd hi’n anhygoel amdano. Roeddwn i'n teimlo mor gyfforddus.

“Gwnaeth hi’n hawdd iawn i mi, ac unwaith i mi oresgyn rhai nerfau cychwynnol, teimlais ryddhad ar unwaith. Roeddwn i wedi'i wneud – ac nawr roedd rhywun yn gwrando arna i.

“Fe wnaethon ni siarad am awr dda - nid yw’n gyfres o gwestiynau, mae’n sgwrs - ac erbyn y diwedd, roeddwn i’n gwybod y byddwn i’n cael y gefnogaeth yr oeddwn ei hangen.”

Atgyfeiriwyd Esther at ei thimau cymorth iechyd meddwl cymunedol ac amenedigol.

Cafodd ei hasesu o fewn 24 awr, gwnaed presgripsiwn meddyginiaeth iddi a chafodd gyfarfodydd wythnosol gyda gweithwyr cymorth dros y misoedd canlynol.

Dywed Esther: “Roedd yna rai uchafbwyntiau ac isafbwyntiau, ond roedd y gefnogaeth yno bob amser pan oedd ei hangen arnaf. Fe wnaeth gwirioneddol helpu fi drwodd.”

Ganwyd ei mab, Dennis – a enwyd ar ôl ei diweddar dad – ym mis Ebrill y llynedd a dychwelodd Esther i'r gwaith y mis diwethaf.

“Mae’n siwtio ei enw – mae’n sicr yn drygionus!” Meddai Esther. “Ond ef yw goleuni fy mywyd, alla i ddim dychmygu bod hebddo. Rydw i mor lwcus.

“Nawr rydw i’n gallu defnyddio fy mhrofiad bywyd yn fy ngwaith.

“Rwyf eisiau i bobl wybod nad oes rhaid i chi fod ar fin torri i ffonio 111, pwyso 2. Does dim problem yn rhy fach i ni. Does dim barnu – rydyn ni yma i helpu.”